Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yr Hen Hufenfa, Cei Connah

Published: 19/10/2018

Old Dairy 01.jpgDywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, Cyng. Bernie Attridge, Dawn Kent, Mick Cunningham, Alex Phillips and Melville Evans

 

 

 

 

 

 

Rydym wedi cwblhau gwaith ar 6 o dai cyngor newydd fel rhan o ddatblygiad safle’r Hen Hufenfa, Ffordd yr Wyddgrug, Cei Connah.

Mae Rhaglen Dai ac Adfywio Strategol (RhTAS) pum mlynedd y cyngor, a ddechreuodd yn ystod haf 2015 mewn partneriaeth â Wates Residential North. Rydym wedi gweithio ar y cynllun diweddaraf hwn yn dilyn cwblhad llwyddiannus o gynlluniau ar draws y sir sy’n darparu 82 o dai cyngor newydd a 62 eiddo fforddiadwy yn Llys Custom House a Llys St Mark’s yng Nghei Connah, Llys Alexandra, Yr Wyddgrug, Maes y Meillion a Heol y Goron yng Nghoed-Llai a The Walks, Y Fflint.

Mae gwaith ail-ddatblygu hen Ganolfan Melrose yn Shotton hefyd yn mynd rhagddo, a fydd yn darparu 9 ty cyngor newydd yn hwyrach yn ystod y flwyddyn, a bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar safleoedd Maes Gwern, Yr Wyddgrug, Llys Dewi, Penyffordd (Treffynnon), hen Ddepo’r Cyngor, Dobshill a Nant y Gro, Gronant.

Dywedodd Y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Lleol Ward Canolog Cei Connah;

“Mae rhaglen dai uchelgeisiol y cyngor bellach wedi darparu 144 o dai cyngor fforddiadwy o’r radd flaenaf ac mae’n parhau i osod meincnod cenedlaethol ar gyfer ansawdd a dylunio. Mae’r datblygiadau hyn wrth wraidd ein cymunedau trefol a gwledig lleol a byddant yn cyfrannu at gynaliadwyedd y cymunedau hyn ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth.

“Yn ogystal â darparu tai cyngor newydd, mae datblygiad yr Hen Hufenfa wedi rhoi bywyd i safle sydd wedi bod yn prysur ddadfeilio am sawl blwyddyn bellach, ac mae wedi gwella'r strydwedd ar y brif ffordd drwy'r dref.

“Fodd bynnag, er ein bod wedi gwneud cynnydd rhagorol hyd yma, mae’n rhaid i ni gadw momentwm ein cynlluniau i ateb y galw am dai cymdeithasol, a byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cap ar fenthyca’r cyngor er mwyn i ni allu adeiladu mwy i ddiwallu’r angen lleol.”  

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Lleol Ward Canolog Cei Connah:

“Mae angen brys a pharhaus am dai cyngor gyda rhent fforddiadwy, ac wrth i’r galw am dai fforddiadwy a chymdeithasol barhau i gynyddu yn ein cymunedau, rydym yn benderfynol o ddarparu mynediad at dai cymdeithasol o’r radd flaenaf i'n pobl.

“Mae’r datblygiad diweddaraf yn yr Hen Hufenfa yn amlygu’r cynnydd arbennig sydd wedi’i wneud mewn ychydig iawn o amser ers i raglen dai’r cyngor ddechau, ac rwyf yn hyderus y byddwn yn parhau i ychwanegu at ein llwyddiannau hyd yma.

“Yn unol â chynlluniau blaenorol, bydd polisïau gosodiadau lleol yn cael eu datblygu gan y Cyngor ar gyfer pob un o’r cynlluniau arfaethedig a byddwn yn sicrhau bod y ddaliadaeth a’r gymysgedd o eiddo ar gyfer y cynlluniau yn adlewyrchu’r angen o ran tai o fewn pob cymuned.”    

Dywedodd Richard Shroll, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential North:

“Bydd cwblhau datblygiad yr Hen Hufenfa yng Nghei Connah unwaith eto’n dangos cryfder partneriaeth Wates Residential North gyda Chyngor Sir y Fflint, a’n hymrwymiad ar y cyd i greu tai o’r radd flaenaf i bobl leol. Mae ein gwaith ar draws Sir y Fflint yn dechrau magu traed ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ychwanegu at ein llwyddiannau drwy gyflwyno llawer o gartrefi newydd yr ydym eu hangen yn y sir.