Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr y Faner Werdd

Published: 30/07/2014

Mae coedlan yn Sir y Fflint wedi cael cydnabyddiaeth am y chweched flwyddyn yn olynol gan elusen amgylcheddol amlwg. Enillodd Coed Pen y Maes yn Nhreffynnon Wobr Gymunedol y Faner Werdd gan ymgyrch Cadw Cymru’n Daclus am fan gwyrdd a reolir gan grwp gwirfoddol. Mae Cyfeillion Coed Pen y Maes yn cynnal y safle, sy’n eiddo i’r Cyngor Sir, gyda chymorth y Ceidwaid Cefn Gwlad. Partneriaeth sy’n gweithredu drwy’r DU gyfan yw Gwobrau’r Faner Werdd, a Chadw Cymru’n Daclus sy’n ei weithredu yng Nghymru. Mae’n cydnabod ac yn gwobrwyo’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau yn y wlad ac yn helpu i wella mannau gwyrdd. Eleni, enillodd 65 o barciau a 37 o fannau gwyrdd a reolir gan y gymuned gydnabyddiaeth am eu cyfleusterau rhagorol ‘u hymrwymiad i sicrhau’r mannau gwyrdd gorau i gymunedau Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “ Rydym yn hynod falch bod coed Pen y Maes, a gwaith y Cyfeillion, wedi cael cydnabyddiaeth, unwaith eto, am greu man gwyrdd braf i’r gymuned leol. Hoffwn ddiolch i Gyfeillion Coed Pen y Maes sy’n gweithio’n galed i gynnal a chadw’r goedwig, gweithio ar dasgau ymarferol yn y goedwig, gan gynnwys ffensio, plannu coed, plygu gwrychoedd, rheoli’r goedwig, gwella’r llwybrau troed a chodi sbwriel.” Dywedodd Ysgrifennydd Cyfeillion Coed Pen y Maes: “Bydd ennill y wobr y Faner Werdd, sy’n wobr nodedig iawn, am y chweched flwyddyn yn olynol, yn hwb mawr i’n criw bach o wirfoddolwyr. Tasg ddiddiolch yn aml yw cadw’r goedwig yn daclus a chlirio sbwriel ond mae Gwobr y Faner Werdd yn gwneud y cyfan yn werth yr ymdrech. Mae’r wobr hon yn dilyn ein llwyddiant yn ddiweddar yng nghystadleuaeth Cymunedau Taclusaf Sir y Fflint ac mae’n goron ar y cyfan’.” Mae rhestr o’r holl barciau sydd wedi ennill y Faner Werdd i’w gweld yn www.keepwalestidy.org/greenflag or www.greenflagaward.org