Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Canoloesol

Published: 06/08/2014

Dewch i ddarganfod yr oesoedd canol, o saethyddiaeth ac arfwisgoedd i ddillad a meddyginiaeth, yn Niwrnod Canoloesol yr Archifdy. Bydd Cymdeithas Ganoloesol Samhain yn ail-greu bywyd yn yr ardal leol yn ystod y 14eg ganrif ddydd Sadwrn 16 Awst yn yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg o 11am tan 4pm. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn addas i deuluoedd gyda nifer o weithgareddau i blant, gan gynnwys nyddu gwlân, caligraffeg, gwisgo helmedau a menyg dur canoloesol neu chwarae gemau bwrdd canoloesol. Yn ogystal, bydd dogfennau canoloesol o gasgliadau’r archifdy yn cael eu harddangos a darperir lluniaeth ysgafn. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01244 532364 neu e-bostiwch archives@flinsthire.gov.uk