Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybrau Diogel yn y Gymuned – Ysgol Gynradd Mountain Lane

Published: 14/11/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon ynghylch diogelwch ffordd a thagfeydd ar Knowle Lane, Church Road a Linthorpe Road, Bwcle er budd y gymuned leol a phlant sy’n mynychu Ysgol Gynradd Mountain Lane. 

Yn dilyn digwyddiad ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd yn yr ysgol fis Gorffennaf, ac yna hysbyseb ffurfiol o’r cynigion wedi hynny, bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 19 Tachwedd am gyfnod a ddisgwylir i bara tan y Nadolig, a disgwylir i’r signalau traffig arfaethedig yng nghyffordd Church Road a Knowle Lane fod yn weithredol ar ôl mis Rhagfyr. 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Carolyn Thomas: 

 “Bydd yr holl waith critigol o amgylch yr ysgol yn cael ei gynnal yn ystod yr oriau tra bydd y plant yn yr ysgol a bydd yr ymyrraeth yn cael ei gadw mor isel â phosibl yn ystod yr amser yma.   Mae hwn yn gynllun gwych a fydd hefyd yn cynnwys gwelliannau i lwybrau a chysylltiadau cymunedol er mwyn annog cerdded a beicio i’r ysgol ac o amgylch y gymuned, yn ogystal â lleihau tagfeydd”.