Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y tîm maethu yn derbyn cyllid

Published: 15/11/2018

Mae tîm maethu Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cyllid ymchwil a datblygu trwy Arloesi i Arbed.

Mae Arloesi i Arbed yn rhaglen a reolir gan Y Lab, Labordy Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, (partneriaeth rhwng Nesta a Phrifysgol Caerdydd), ac wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhaglen gymysg o gefnogaeth ariannol a chefnogaeth heb fod yn ariannol gyda’r nod o gefnogi syniadau arloesol, gwella gwasanaethau cyhoeddus a chreu arbedion ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Rydym wedi derbyn £30,000 gan Arloesi i Arbed ar gyfer ymchwil a datblygu, ynghyd â phecyn o gefnogaeth heb fod yn ariannol gan Y Lab.  Golyga hyn y gallwn brofi canolfan maethu 'clwstwr' Mockingbird, gyda chefnogaeth gan gymheiriaid, cysgu dros nos yn rheolaidd a gweithgareddau cymdeithasol ar y cyd gyda gofalwyr maeth a’u teuluoedd.

“Bydd y cyllid yn rhoi amser a’r gofod i ni brofi syniad i wella ein gwasanaeth ar gyfer gofalwyr maeth a phlant dan ofal, gyda'r posibilrwydd o arbed arian gan leihau'r defnydd o leoliadau maeth allanol costus.” 

Mae rhaglen Mockingbird™ y Rhwydwaith Maethu yn ddull arloesol o ddarparu gofal maeth gan ddefnyddio model teulu estynedig, sy'n darparu gofal seibiant, cefnogaeth gan gymheiriaid, cynllunio a hyfforddi ar y cyd yn rheolaidd, a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae’r rhaglen yn gwella sefydlogrwydd lleoliadau maethu ac yn cryfhau'r perthnasau rhwng gofalwyr, plant a phobl ifanc, gwasanaethau maethu a theuluoedd naturiol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Arloesi i Arbed yma: https://www.nesta.org.uk/project/innovate-save