Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Unedau Atgyfeirio Disgyblion Portffolio Sir y Fflint

Published: 16/11/2018

Ar 20 Tachwedd, bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo cais arfaethedig i Lywodraeth Cymru a fydd yn edrych ar fodel gwasanaeth gwell ar gyfer Portffolio Unedau Atgyfeirio Disgyblion.  

Bydd yn cael ei drafod fel eitem 2 Ran.

Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth Unedau Atgyfeirio Disgyblion yn gweithredu o sawl lleoliad gwahanol, sydd yn achosi rhywfaint o heriau gweithredol. Nid ydi’r canolfannau presennol yn bwrpasol felly nid ydynt yn cynnig mynediad i ystafelloedd sydd yn cefnogi ymyriadau penodol ar gyfer disgyblion. Nid oes modd cynnal cyfarfodydd aml-asiantaeth yno chwaith, ac mae angen cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer y math yma o ddarpariaeth.  Nid yw staff arbenigol wedi’u lleoli ar draws y canolfannau, felly nid ydynt ar gael bob amser pan fo’u hangen mewn lleoliadau penodol. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Rydym eisiau edrych ar y posibilrwydd o wella’r Gwasanaeth Uned Atgyfeirio Disgyblion ac rydym ni’n cynnig llunio Achos Busnes i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Byddai angen i’r gwasanaeth newydd gynnig hyblygrwydd.  Argymhelliad pwysig o adroddiad Estyn yn 2015 oedd “Cyflwyno dull strategol wedi’i rannu i reoli o fewn un sefydliad”.   

“Felly byddai’n gall i ymchwilio a ydi’r Cyngor yn gallu datblygu’r gwasanaeth Uned Atgyfeirio Disgyblion gyda chyllid o raglen Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn ddatrysiad ar gyfer yr anawsterau gwasanaeth ynghyd â’r cyfle i ddatblygu a gwella a sicrhau bod dysgwyr sydd ag anghenion penodol iawn yn cael eu cefnogi’n effeithiol i gyflawni eu potensial."