Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cardiau Nadolig yr Archifdy ar werth

Published: 26/11/2018

1718-01785 Record Office Xmas Card 4 Holly Card.jpg

Mae cardiau Nadolig 2018 Archifdy Sir y Fflint yn cynnwys lluniau o gelyn. 

Mae set o 4 (un o bob dyluniad) yn costio £2 y pecyn ac maent ar gael i’w prynu yn yr Archifdy neu Swyddfa'r Post Penarlâg.  Mae’r lluniau’n seiliedig ar gardiau o gasgliadau amrywiol yr Archifdy ac maent yn gopïau o gardiau gwreiddiol o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. 

Nifer gyfyngedig o setiau sydd ar gael ac os ydych yn chwilio am rywbeth anarferol a ‘gwahanol’ i’w hanfon at eich teulu a’ch ffrindiau eleni, y rhain yw’r cardiau i chi.

Os nad ydych yn gallu cyrraedd yr Archifdy ond yn dymuno prynu rhai, ffoniwch ni ar 01244 532364 a gallwn eu hanfon atoch (codir tâl am gostau postio).  Fel arall, galwch heibio i’r Archifdy (oriau agor yw dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 10am a 4.30pm) neu Swyddfa’r Post Penarlâg sydd ar agor bob dydd gan gynnwys bore Sadwrn.

 

 1718-01785 Record Office Xmas Card 2 Holly Berries Ivy.jpg1718-01785 Record Office Xmas Card 1 Holly Border.jpg1718-01785 Record Office Xmas Card 3 Holly of the Past.jpg