Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Sir y Fflint yn fuddugol yng Ngwobrau Cynllunio Cymru

Published: 29/11/2018

Mae tîm Cynllunio Cyngor Sir Y Fflint yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Cymru Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru (RTPI) ar gyfer Rhagoriaeth mewn Cynllunio yn ddiweddar.

Coronwyd The Walks yn Y Fflint, y safle cyntaf i’w ail-ddatblygu fel rhan o Raglen Strategol Tai ac Adfywio (SHARP) Cyngor Sir y Fflint, yn enillydd mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd.  Mae’r datblygiad yn cynnwys 92 o gartrefi cyngor newydd, fforddiadwy, sy'n effeithiol o ran ynni ac sydd wedi eu hadeiladu yng nghalon Y Fflint gan bartner y rhaglen, Wates Residential North. 

Dyma’r tai cyngor cyntaf i’w hadeiladu mewn cenhedlaeth ac mae'r datblygiad wedi disodli maisonettes o'r 1950au oedd wedi dod yn fwyfwy amhoblogaidd, yn aneffeithiol o ran ynni ac yn dioddef o ddiffyg atgyweirio, ac a oedd yn lleoliad ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol sylweddol.

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Mae darparu’r rhaglen hon wedi bod yn broses o gydweithio, o gyfranogiad cynnar Cyngor y Dref a thrigolion lleol, i ymgysylltu mwy ffurfiol gyda'r Comisiwn Dylunio, i gydweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Archeolegol  i fynd i’r afael â phroblemau o ran y safle.

“Mae delio gyda SHARP wedi rhoi cyfle i'r adran gynllunio arddangos sut gall weithio’n gadarnhaol i ddarparu blaenoriaethau’r Cyngor o atal digartrefedd, lleihau tlodi tanwydd a gwella amodau byw.  Un o’r prif yrwyr yw helpu i greu lleoedd gwell ac mae The Walks yn Y Fflint yn lle gwell."  

Meddai Roisin Willmott, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru:

“Mae creu lleoedd safonol yn ganolog i Gynllun Tai The Walks yn Y Fflint. Drwy’r cynllun hwn mae cynllunwyr wedi adfywio synnwyr o le a chymuned. Mae trigolion bellach yn parchu’r ardal hon, yn teimlo’n ddiogel ac wedi eu cysylltu â chanol y dref.

“Bu cydweithio da rhwng cynllunwyr Cyngor Sir Y Fflint a datblygwyr Wates Residential yn fodd i sicrhau bod y cartrefi newydd yn effeithiol o ran ynni ac yn fforddiadwy. Aeth y dull gweithredu hwn i’r afael â materion gwirioneddol o dlodi tanwydd yn yr ardal. Bydd cynllunwyr yn parhau i greu lleoedd gwell a gwella lles cymunedau Cymreig.”

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Rwyf wrth fy modd fod Sir y Fflint wedi ennill y wobr arbennig hon. Wrth i’r galw am dai cymdeithasol a thai fforddiadwy barhau i gynyddu, mae’n rhaid i ni gynnal momentwm ein cynlluniau uchelgeisiol i gwrdd â’r galw hwnnw.

“Mae’r safleoedd newydd hyn yng nghanol ein cymunedau a byddant yn darparu rhagor o eiddo o ansawdd uchel, yn helpu i gynnal y cymunedau hynny a chreu cyfleoedd gwaith.”

Mae’r cydweithio ffurfiol gyda Wates Living Space wedi golygu partneriaeth ddatblygu a fydd yn darparu 500 o dai fforddiadwy ar draws Sir y Fflint mewn pum mlynedd.

Mae’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yn eiriol pwer cynllunio wrth greu lleoedd ffyniannus a chymunedau bywiog. Maent yn cynrychioli dros 25,000 o aelodau ar draws y byd, yn eu cefnogi drwy eu gyrfaoedd. Maent yn siapio polisïau cynllunio, yn codi safonau proffesiynol a nhw yw’r unig gorff yn y DU sy’n rhoi statws Siartredig i gynllunwyr, sef y cymhwyster proffesiynol uchaf.

 

181125RTPI-Dinner062_NTreharne.jpgMick Cunningham – Wates Residential North gyda Cyngor Sir y Fflint: Andy Roberts, David Glyn Jones, Andrew Farrow, Melville Evans