Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadeirydd Sir y Fflint yn croesawu’r Lleng Brydeinig Frenhinol i Neuadd y Sir

Published: 30/11/2018

Gwnaeth CadeiryRoyal British Legion.jpgdd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham, a’i Gonsort, Mrs Joan Cunningham, groesawu Val Nevitt ac Elain Jones i ystafell y Cadeirydd yn ddiweddar.

Mae’r ddau yn hoelion wyth y Lleng Brydeinig Frenhinol.  Mae Elain yn Gadeirydd Cangen y Fflint ac mae’n cymryd rhan weithredol ym mhob maes gwaith gan gynnwys cefnogaeth, lles ac Apêl y Pabi.

Val yw trefnydd ardal Apêl y Pabi.  Mae wedi bod yn gwneud hyn ers sawl blwyddyn, gan godi arian gwerthfawr i gynorthwyo a manteisio cyn-filwyr.

Cyflwynodd y Cynghorydd Cunningham dystysgrif a mwg coffa i bawb i gydnabod eu gwaith.