Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cofrestrwch i bleidleisio
Published: 14/04/2014
Mae deiliaid tai’n cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi’u cofrestru i
bleidleisio cyn yr etholiadau
Ewropeaidd nesaf.
Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau ar ddydd Iau, 22 Mai, mae angen i enw
unigolyn fod ar y gofrestr
etholwyr.
Mae gan bobl tan ddydd Mawrth, 6 Mai i gofrestru.
Mae yna nifer o resymau paham ei bod yn bwysig cael eich cynnwys ar y gofrestr
etholwyr.
Gall etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd ac os nad ydych wedi’ch cofrestru ni
fyddwch yn gallu pleidleisio.
Mae pleidleisio’n sicrhau hefyd fod gennych lais ym materion y dydd ac mae bod
ar y gofrestr etholwyr yn
gallu cynnal eich statws credyd.
Meddai Colin Everett, Swyddog Canlyniadau Sir y Fflint,
Mae hi’n bwysig fod pobl yn defnyddio’u hawl i bleidleisio ac nad ydynt yn
cael eu difreinio am nad ydynt
wedi’u cofrestru. Ni ddylai pobl gymryd eu bod yn gallu pleidleisio dim ond am
eu bod wedi’u cofrestru ar
gyfer pethau eraill megis Treth y Cyngor. Os ydynt yn amau, awgrymwn fod
preswylwyr yn cysylltu â’n
Tîm Cofrestru Etholiadol i gael gweld a ydynt wedi’u cofrestru i bleidleisio.”
Mae cofrestru’n gyflym a syml. ’Does ond rhaid mynd i: www.aboutmyvote.co.uk ac
argraffu ffurflen gofrestru.
Neu fel arall, gwnewch gais am y ffurflenni priodol neu holwch a yw’ch enw ar y
gofrestr trwy gysylltu â
Gwasanaethau Etholiadol ar 01352 702412
Ac rydych yn dal i allu pleidleisio hyd yn oed os ydych i ffwrdd ar wyliau trwy
wneud cais am bleidlais drwy’r
post erbyn 5pm ddydd Mercher, 7 Mai, neu drwy ffurflen gais dirprwy (nid
dirprwy drwy’r post neu ddirprwy
brys) erbyn 5pm ddydd Mercher, 14 Mai.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar:
www.siryfflint.gov.uk/ewropeaidd2014
www.flintshire.gov.uk/european2014