Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor a phartneriaid yn nodi carreg filltir sylweddol yn eu prosiect, Hwb Cyfle

Published: 30/11/2018

Mae’r Ganolfan Ddydd Newydd i Oedolion, ‘Hwb Cyfle’ yn prysur ddatblygu.

Cynhaliodd swyddogion ac aelodau o Gyngor Sir y Fflint, ynghyd â chynrychiolwyr o'u sefydliadau partner, seremoni llofnodi’r dur ar y safle yn ddiweddar i nodi’r garreg filltir arbennig hon o adeiladu Canolfan Ddydd a Chyfleoedd Gwaith newydd sy’n werth £4 miliwn.

Bydd y ganolfan newydd yn darparu canolfan gofal dydd unllawr i oedolion sy’n arbenigo mewn cyfleusterau dydd cymunedol a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion diamddiffyn gydag ystod o anableddau dysgu.   Bydd yn disodli’r cyfleuster presennol sy’n prysur heneiddio ger y safle newydd a bydd y gwaith hefyd yn cynnwys maes parcio, man gollwng a gardd wedi'i hamgáu.

Mae Sir y Fflint wedi arwain y ffordd gyda phob partner allweddol i ddatblygu’r ganolfan hon sy’n anelu i integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yn well, i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu i fyw yn fwy annibynnol yn eu cartref.

Kier sy’n cyflawni’r prosiect hwn a chaiff ei ddarparu drwy fframwaith Gwaith Mân Cenedlaethol Scape. Mae’n arbennig o bwysig i Kier oherwydd mae'n nodi'r 1000fed prosiect sydd wedi cael ei ddyfarnu drwy'r fframwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r Cyngor, ynghyd â'n partneriaid, yn gweithio'n galed i drawsnewid gwasanaethau i bobl sydd ag anabledd dysgu. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi buddsoddi yn nyfodol y gwasanaeth allweddol hwn ac wedi galluogi cyfleusterau o’r radd flaenaf i ddod i fodolaeth.

“Er bod y Cyngor yn wynebu pwysau ariannol ar hyn o bryd, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf allweddol sy’n cefnogi gwasanaethau hanfodol. Mae ein buddsoddiad gwerth £4miliwn yn Sir y Fflint ar gyfer adeiladu cyfleuster newydd i ddarparu gwasanaethau dydd ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu yn profi ein hymrwymiad.  Bydd yr adeilad newydd yn fodern iawn, a chafodd ei ddylunio gyda mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd, a’n staff. 

Dywedodd Michael Edwards, cyfarwyddwr Fframweithiau a Chynghreiriau Strategol Kier:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi dechrau ein 1000fed prosiect o fewn fframwaith Gwaith Mân Cenedlaethol Scape. Trwy’r fframwaith, rydym wedi cwblhau cannoedd o brosiectau hanfodol ar gyfer cymunedau lleol, gan gynnwys ysgolion, ysbytai a neuaddau tref. 

“Rydym yn edrych ymlaen at gwblhau’r prosiect hwn a fydd yn darparu cyfleusterau gofal iechyd hanfodol i oedolion sydd ag anableddau dysgu yn y gymuned.”

Mae Kier wedi bod ar y safle ers mis Awst, a disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2019. Mae Kier wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y gymuned leol yn manteisio o’r adeilad. Bydd yn cyfrannu tuag at y Ffair Nadolig gyntaf a gaiff ei chynnal yn y ganolfan ddydd ar gyfer ei atyniad ceirw byw, ac mae wedi trefnu i 12 o fyfyrwyr Hyfforddiaeth Coleg Cambria helpu i wella’r ardal y tu allan i’r ganolfan. 

Dywedodd Victoria Brambini, Rheolwr Gyfarwyddwr, Scape Procure:

“Mae ein fframwaith Gwaith Mân wedi cyflawni prosiectau llwyddiannus yn gyson, ac mae gwerth cymdeithasol yn sail bwysig iddynt. Rwyf yn falch iawn mai dyma’r 1000fed prosiect y mae Kier wedi’i ddarparu drwy ffyrdd caffael Scape a’i fod yn parhau i reu gwerth gwirioneddol, gan adael etifeddiaeth gadarnhaol i ardal Queensferry."

 

Glanrafon 02.jpg

Cyng Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, Queensferry Cyng David Wisinger, Prif Weithredwr Colin Everett, Michael Jones - Tîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol, Andrew Topliss - Peiriannydd Dylunio Trydanol, Neil Ayling - Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ian Edwards - Dyluniad Adeilad Arweinydd Tîm

 

Glanrafon 01.jpg

Defnyddiwr canolfan ddydd John Lamb, Dylan Wyn Jones - SCAPE Procure Cyf, Neil Ayling Cyngor Sir y Fflint, Rachel Greenwood a Richard Robinson - Kier

 

 

 

 

 

 

Glanrafon 03.jpgCyngor Sir y Fflint, Kier, Scape Procure a defnyddwyr y ganolfan ddydd ar ddechrau'r adeilad newydd yn agos at y strwythur a lofnodwyd

 

 

Glanrafon 04.jpgCyngor Sir y Fflint, Kier, Scape Procure a defnyddwyr y ganolfan ddydd gyda chacen dathliadol i nodi'r achlysur