Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Polisi Cludiant yn ôl Disgresiwn

Published: 17/12/2018

Yn ei gyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried y dewisiadau a gynigir ar gyfer ymgynghori ynglyn â meysydd polisi cludiant i'r ysgol yn ôl disgresiwn ar gyfer darpariaeth ôl-16 a hawl i fudd-daliadau. 

Fis Mehefin eleni bu aelodau’r Cabinet yn ystyried adroddiad ynglyn â Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol yn ôl disgresiwn, gan gytuno i gynnal adolygiad o’r polisïau ynglyn â chludiant ôl-16 a’r hawl i fudd-daliadau.

Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae cludiant ar ôl 16 oed i’r ysgol a’r coleg, a darparu cludiant am ddim drwy’r drefn fudd-daliadau, yn wasanaethau dewisol. Wrth i refeniw’r Cyngor ddal i ostwng yn sylweddol, mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd a meddwl am wahanol ffyrdd o ddarparu ein gwasanaethau.”

Yn y Polisi Cludiant presennol mae’n dweud y darperir cludiant am ddim i fyfyrwyr dros 16 oed yn Sir y Fflint os ydyn nhw’n mynychu eu cwrs llawn amser cyntaf mewn ysgol neu goleg, ar yr amod y bodlonir y maen prawf pellter o dair milltir, a bod y myfyrwyr yn mynd i'r sefydliad addysgol agosaf sy'n cynnig y cyrsiau y maen nhw’n dymuno eu gwneud.  Dim ond i rai safleoedd penodol y darperir cludiant am ddim. Y rhain yw:

• Pob Ysgol Uwchradd yn Sir y Fflint sy’n cynnig cyrsiau ôl-16

• Safleoedd Coleg Cambria yng Nghei Connah, Llaneurgain, Wrecsam a Llysfasi (ar gyfer cyrsiau tir yn unig)

• Ysgol Uwchradd Gatholig Caer, Ysgol Uwchradd Prestatyn, Rhyl 6, Ysgol y Santes Ffraid ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy.

Ni ddarperir cludiant i sefydliad addysgol nad yw’r un agosaf at gartref y myfyriwr oni bai fod gwahaniaeth sylweddol rhwng y cyrsiau yn y naill sefydliad a'r llall.

Esboniodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r hawl i gludiant am ddim wedi’i roi yn ôl disgresiwn yn unol â’r meini prawf budd-daliadau, ac nid ydym wedi’i adolygu ers 1996. Sir y Fflint yw’r unig gyngor yng Nghymru sy'n dal i ddewis rhoi'r hawl.  Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n rhaid inni ystyried newid y trefniadau.

“Pe bydden ni’n cynnig newid y polisi cludiant i’r ysgol, byddai’n rhaid inni ymgynghori â’r holl randdeiliaid, gan gynnwys y rhai hynny y bydd unrhyw newid yn effeithio arnynt. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ymgynghori cyn dod i unrhyw benderfyniad a mynd ati i gyflwyno polisi newydd.  Rwy’n hyderus y bydd pobl yn barod i drafod gyda’r Cyngor a meddwl am y dewisiadau sy’n cael eu cynnig yn yr ymgynghoriad.”

Dyma'r dewisiadau sy'n destun ymgynghoriad:

Dewisiadau i’w hystyried – Ôl-16

Dewis 1 - Cadw pethau’r un fath. Cynnal y ddarpariaeth fel ar hyn o bryd, yn unol â’r Polisi.  Cludiant presennol. Y gost ar hyn o bryd yw £860,000.

Dewis 2 - Dechrau codi tâl (mae’r prisiau a gynigir yn amrywio o £50 i £150 y tymor).

Dewis 3 - Dechrau codi tâl fel yn Newis 2, ond heb gynnwys dysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim/budd-daliadau.

Dewis 4 - Rhoi’r gorau i ddarparu cludiant i'r holl fyfyrwyr ôl-16, a’u bod hwythau’n gwneud eu trefniadau eu hunain. 

Dewis 5 - Eithrio ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd o Ddewisiadau 2 a 3.

Dewis 6 - Eithrio ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig o Ddewisiadau 2 a 3.

Dewisiadau i’w hystyried – hawl i fudd-daliadau:

Dewis 1 -Cadw pethau’r un fath a pharhau â’r polisi presennol – y gost ar hyn o bryd yw tua £10,000.

Dewis 2 - Rhoi’r gorau i’r ddarpariaeth yn llwyr o fis Medi 2020 ymlaen.

Dewis 3 - Dod â’r ddarpariaeth i ben yn raddol, hynny yw, heb dderbyn unrhyw fyfyrwyr newydd sydd â hawl i fudd-daliadau ar ôl mis Medi 2020 – byddai hynny’n golygu llai o fyfyrwyr yn derbyn budd-daliadau bob blwyddyn, a dim o gwbl erbyn 2023.