Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Gorfodi Amgylcheddol

Published: 17/12/2018

Bydd gofyn i aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo “gorfodaeth well wedi’i ddarparu’n fewnol” yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth amgylcheddol a gorfodi parcio ceir. 

Bydd y Cabinet yn gofyn i swyddogion ddechrau trafod ag awdurdodau cyfagos gyda’r nod y greu gwasanaeth cyfun yn y dyfodol, a allai ddod â buddion ariannol i fynd at fwy o adnoddau yn y rheng flaen.

Ers i’r trefniant dros dro gyda’n darparwyr allanol ddod i ben ddiwedd mis Awst, y tîm mewnol o swyddogion gorfodi sy’n gwneud yr holl waith gorfodi yn y sir.  Daw adroddiad gerbron y Cabinet yn nodi pedwar o ddewisiadau posib ar gyfer dyfodol y gwasanaeth – gan argymell cymeradwyo dewis 2, ar sail yr hyn a drafodwyd mewn cyfarfod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylcheddol y Cyngor.

Y dewisiadau yw:

1. Cadw’r gwasanaeth mewnol a chynnal yr un faint o adnoddau

2. Gwella’r ddarpariaeth fewnol

3. Cydweithio ag awdurdodau cyfagos

4. Penodi partner busnes arall.

Wedi cyflwyno’r strategaeth meysydd parcio ledled Sir y Fflint, bu cynnydd sylweddol yn y galw am batrolio a gorfodi rheoliadau parcio. Digwyddodd hyn hefyd wrth i’r Cyngor gyflwyno polisi llym ar ollwng sbwriel, baw cwn a thipio anghyfreithlon, a oedd yn gofyn am fwy o adnoddau ar gyfer gorfodi.

Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Gan ystyried y sefyllfa ariannol sydd ohoni, ac er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth mor effeithlon a chost effeithiol â phosib, rydyn ni’n argymell y dylid mynd ati i wella’r gwasanaeth mewnol. Daw’r arian ar gyfer unrhyw swyddi ychwanegol o’r incwm a dderbynnir o Rybuddion Cosb Benodedig a chanlyniadau’r trafodaethau ag awdurdodau cyfagos i geisio cydweithio ar wasanaeth cyfun.”