Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lleihau nifer y troseddau
Published: 13/08/2014
Mae aelodau o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint wedi cyfarfod
preswylwyr lleol ym marchnad yr Wyddgrug i siarad am atal troseddu a diogelwch
cymunedol.
Mae cyllid a sicrhawyd trwy’r Bartneriaeth wedi galluogi Heddlu Gogledd Cymru,
Safonau Masnach Sir y Fflint, Gwarchod Cymdogaeth Sir y Fflint a Wardeniaid
Cymdogaeth Sir y Fflint i weithredu stondin mewn marchnadoedd a digwyddiadau
drwy gydol mis Awst ar draws y sir.
Maer stondin yn rhoi cyngor ynghylch atal troseddu, ac yn enwedig
byrgleriaeth. Bydd aelodau or cyhoedd yn gallu cofrestru ar gyfer rhybuddion
troseddau ar-lein, cofrestru eiddo a chael ymweliad diogelwch y cartref ynghyd
â chyngor gan Safonau Masnach Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Strategaeth Wastraff, Diogelur Cyhoedd a Hamdden: “Maen wych gweld yr holl
sefydliadau hyn yn gweithio gydai gilydd er lles y gymuned yn Sir y Fflint.
Maen bwysig tynnu sylw at atal troseddau a gwneud pobl leol yn fwy diogel yn
eu cartrefi eu hunain, felly ewch i weld y stondin yn y digwyddiadau hyn a
chanfod beth y gall y Bartneriaeth ei gwneud i chi.”
Meddair Rhingyll Plismona Cymunedol Matthew Mitchell: “Gall effeithiau
byrgleriaeth fod yn drawmatig iawn ir dioddefwr.
Drwy weithio mewn partneriaeth âr Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, Gwarchod
Cymdogaeth, Wardeiniaid Cymdogaeth Sir y Fflint a Safonau Masnach, a wnaeth
sicrhau’r arian gyda Heddlu Gogledd Cymru, rydym yn gobeithio sicrhau bod
preswylwyr ar draws y sir yn y sefyllfa orau posibl i osgoi bod yn ddioddefwr o
drosedd.”
Maer Bartneriaeth wedi trefnu i fod yn bresennol yn y marchnadoedd ar
digwyddiadau canlynol:
Dydd Gwener 15 Awst - Marchnad y Fflint
Dydd Mercher 20 Awst - Marchnad yr Wyddgrug
Dydd Iau 21 Awst - Marchnad Treffynnon
Dydd Sadwrn 23 Awst - Marchnad yr Wyddgrug
Dydd Sadwrn 30 Awst - Cei Connah
Pennawd Llun 1: Aelodau o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint y tu
allan ir stondin yn farchnad yr Wyddgrug.
Pennawd Llun 2: Elizabeth a Brian Fenn yn siarad â Richard Powell, Uwch Swyddog
Safonau Masnach yng Nghyngor Sir y Fflint.