Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau – Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn

Published: 21/12/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon ynghylch diogelwch ffordd ar Ffordd Neuadd Brychdyn er budd y gymuned a phlant sy’n mynychu Ysgol Gynradd Brychdyn.

Yn dilyn y digwyddiad ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd yn y ganolfan gymunedol fis Gorffennaf, a hysbysebu’r cynigion yn ffurfiol, bydd gwaith yn cychwyn ar ddydd Llun 14 Ionawr 2019 am gyfnod disgwyliedig o 8 wythnos. Bydd y gweithfeydd yn cynnwys ail wynebu Ffordd Neuadd Broughton, gosod nodweddion gostegu traffig, cyfleusterau croesi wedi’u gwella a mesurau diogelwch.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Strydwedd a Chefn Gwlad:

"Bydd yr holl waith allweddol o amgylch yr ysgol yn digwydd yn ystod hanner tymor Chwefror, ac yn ystod y tymor ysgol caiff y gwaith ei gyfyngu i’r oriau rhwng 9.30am a 2.30pm er mwyn tarfu cyn lleied â phosib.

“Bydd y cynllun yn gwella diogelwch a hygyrchedd i blant sy’n mynychu Ysgol Gynradd Brychdyn a bydd hefyd o fudd ir gymuned leol syn defnyddio gwasanaethau ac adnoddau yn yr ardal hon. Mae gan y cynllun fuddion ehangach hefyd am ei fod yn ffurfio rhan o gynllun ehangach i weithredu darpariaeth beicio rhwng yr Wyddgrug a Brychdyn ac ymlaen i Sandycroft a Saltney."