Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ail Gam Rhwydwaith Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Sir y Fflint

Published: 08/01/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint, Strydwedd a Chludiant yn falch o gyhoeddi dechrau ail gam y weledigaeth strategol o ran cludiant gyda gwaith adeiladu llwybr beiciau a seilwaith safle bws ar Parkway, Second Avenue, Fourth Avenue a Sixth Avenue o fewn Parth 2 Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.  Bydd y gwaith yn cynnwys llwybr beiciau unigol i bob busnes a gwaith adeiladu seilwaith gorsaf bysiau newydd gan gynnwys cabannau aros bysiau newydd. 

Anelir i’r gwaith ddechrau, ddydd Llun, 21 Ionawr am gyfnod o 6 mis. Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Hoffai Cyngor Sir y Fflint ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn a byddwn yn cwblhau’r gwaith mor sydyn â phosibl.

Dywedodd y Cyngh Carolyn Thomas;

“Rwy’n falch iawn bod Cyngor Sir y Fflint wedi diogelu nawdd pellach gan Llywodraeth Cymru ar gyfer cynigion Trafnidiaeth Integredig. Dyma un o sawl cynllun cyffrous sydd ar y gweill a fydd yn integreiddio pob dull trafnidiaeth i annog gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar.”