Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybr beicio Talacre i Ffynnongroyw
Published: 14/08/2014
Mae gwaith yn mynd rhagddo i greu llwybr beicio newydd a rennir rhwng Talacre a
Ffynnongroyw fel rhan o’r prosiect parhaus “Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint”.
Bydd y mwyafrif o’r llwybr beicio arfaethedig yn dilyn llinell y Llwybr
Arfordirol Cymru Gyfan presennol rhwng yr A548 yn Nhan Lan at y gyffordd â
Ffordd yr Orsaf yn Nhalacre, gydag adran yn mynd o amgylch pwynt Glofa’r Parlwr
Du. Bydd y rhan hwn o’r Llwybr Arfordirol ar gau tan ddiwedd mis Medi pan gaiff
y gwaith ei gwblhau. Yn ogystal, ni fydd modd cael mynediad ir Guddfan Adar
yng Nglofar Parlwr Du yn ystod y gwaith adeiladu.
Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y llwybr beicio yn darparu cyswllt beicio di-dor
o ogledd Mostyn i Ffynnongroyw ac ymlaen i Dalacre cyn parhau ar hyd Rhwydwaith
Beicio Cenedlaethol 5 i Brestatyn
Mae tri chynllun eisoes wedi’u cwblhau fel rhan o brosiect Cysylltu Cymunedau
Sir y Fflint a ddechreuodd yn 2011: Gosod Croesfan Pegasus yng Ngronant,
cynllun gwella’r Llwybr Cerdded Cyhoeddus yn Mostyn a llwybr beicio ar/oddi ar
y ffordd rhwng yr Wyddgrug/Sychdyn a Llaneurgain/y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet ar gyfer yr Amgylchedd
“Nod prosiect Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint yw darparu amcanion cynaliadwyedd
amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, yn enwedig o ran trafnidiaeth a newid
yn yr hinsawdd, cydlyniad a chysylltedd cymdeithasol a gwella, datblygu a
hyrwyddo cyfres o lwybrau troed, llwybrau beicio a llwybrau ceffylau yn Sir y
Fflint wledig.
Maer prosiect wedi cael tua £715K o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa
Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Darparwyd ffynonellau cyllid
eraill gan y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol, y Gronfa Drafnidiaeth Leol a
Chyngor Sir y Fflint ac mae tua £500,000 ar gael.