Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau Safon Uwch
Published: 14/08/2014
Mi fydd yna ddathlu mawr yn Sir y Fflint heddiw wrth i ddosbarthiadau 2014
dderbyn eu canlyniadau Lefel A. Mae’r Awdurdod Lleol wedi derbyn canlyniadau
cyfanredol Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) ac maent yn dangos bod 98.6% o’r
rheiny sydd wedi sefyll arholiad CBAC yn Sir y Fflint wedi llwyddo, cynnydd o
0.5% ers y llynedd (98.1%). Unwaith eto, mae cyfraddau llwyddo Sir y Fflint
gyda CBAC yn cymharun dda â chyfraddau llwyddo Lefel A Cymru gyfan, sy’n 97.5%
eleni (0.1% yn is nag yr oedd yn 2013).
Mae cynnydd hefyd wedi ei wneud ar raddau A* i C gyda 79.0% o ymgeiswyr yn
ennill y graddau yma yn Sir y Fflint yn 2014, o gymharu â 76.3% yn 2013 a 71.6%
yn 2012.
Derbyniodd 18.1% o ymgeiswyr CBAC Sir y Fflint radd A* neu A, o gymharu â 21.0%
yn 2013 a 23.3% ar draws Cymru gyfan. Mae canran Sir y Fflint wedi cael hwb
sylweddol eleni gan fod canlyniadau’r Fagloriaeth Gymreig wedi eu hychwanegu.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill cymhwyster sy’n cyfateb â gradd A.
Mae oddeutu hanner ymgeiswyr Lefel A Sir y Fflint yn sefyll arholiadau CBAC.
Bydd canlyniadau byrddau eraill ar gael yn ddiweddarach heddiw.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg:
“Ar ôl derbyn yr wybodaeth am ymgeiswyr Bwrdd Arholi CBAC, maer Cyngor yn
ymuno â rhieni, gwarcheidwaid ac ysgolion i ddathlu eu canlyniadau Lefel A, ac
yn llongyfarch yr holl fyfyrwyr ar athrawon am eu gwaith caled au
llwyddiant.
“Mae myfyrwyr Sir y Fflint wedi gweithion galed i ddilyn rhaglenni astudio
heriol. Rwyf yn falch iawn ohonyn nhw, a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw i’r
dyfodol wrth iddyn nhw adeiladu ar y canlyniadau hyn yn y brifysgol, y coleg
neu ddilyn cwrs hyfforddi neu yrfa.”
Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Ian Budd:
“Maer canlyniadau hyn yn dangos yn glir y dull cyfrifol ac ymroddedig y mae
myfyrwyr Sir y Fflint yn ei ddangos tuag at eu hastudiaethau. Llongyfarchiadau
iddyn nhw i gyd, a rhaid hefyd diolch i’w hathrawon, rhieni a’u gofalwyr am eu
cefnogaeth gyson. Maer canlyniadau, unwaith eto, yn newyddion da i bobl ifanc
Sir y Fflint a’u teuluoedd ac i ddyfodol ein cymunedau.
Nodyn ir Golygydd
Ar adeg cyhoeddi’r datganiad hwn, maer wybodaeth a roddir yn seiliedig ar
wybodaeth gan Fwrdd CBAC yn unig. Rydym ni’n aros am fanylion gan ysgolion
ynghylch y darlun cyffredinol unwaith y bydd data byrddau arholi Lloegr (nad yw
ar gael yn ganolog i Awdurdodau Addysg Lleol Cymru) wedi ei brosesu. Maen
bwysig nodi bod oddeutu hanner ymgeiswyr Sir y Fflint wedi sefyll arholiadau
CBAC, maer lleill wedi sefyll arholiadau Byrddau Lloegr.