Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sgwrs Fawr am Gyllideb
Published: 18/08/2014
Mae toriadau mawr i gyllideb y cyngor wedi annog lansiad ymgynghoriad cyhoeddus
i ganfod barn trigolion ar wasanaethau lleol y cyngor a sut y dylid eu diogelu.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer rhwng 1.5 y cant a
4.5 y cant o doriadau yn ei gyllideb gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn
nesaf. Ar 1.5 y cant, byddai’n rhaid i’r Cyngor ddod o hyd i arbedion o £12m i
lenwi’r bwlch yn y gyllideb. Os bydd y toriad mor fawr â 4.5 y cant, bydd y
bwlch yn tyfu o £6m a bydd angen dod o hyd i £18m. Mae’r Cyngor yn edrych at
bobl sy’n byw yn y Sir ac sy’n defnyddio gwasanaethau a gynhelir gan y cyngor i
ganfod a ydynt yn cefnogir dewisiadau y bydd angen eu gwneud dros y misoedd
nesaf.
Mae’r Sgwrs Fawr am Gyllideb yn agored i bawb a bydd modd i bobl roi adborth ar
eu safbwyntiau au barn. Bydd gwybodaeth ar gael am gost y gwasanaethau a faint
maer Cyngor yn ei gyfrannu tuag at y gwasanaethau hynny.
Yn y pen draw, bydd yn rhaid gwneud dewisiadau yn cynnwys blaenoriaethu rhai
gwasanaethau dros eraill, lleihau neu hyd yn oed stopio rhai gwasanaethau,
disgwyl i bobl deithio ymhellach i gael gwasanaethau, disgwyl i bobl dalu mwy
am wasanaethau lle codir tâl amdanynt ar hyn o bryd, a chyflwyno taliadau
newydd ar gyfer gwasanaethau sydd am ddim. Bydd yr holl wasanaethau y mae’r
Cyngor yn eu darparu yn wynebu gwaith craffu, gan gynnwys addysg, gwasanaethau
cymdeithasol, gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a gwasanaethau casglu
gwastraff.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Yn y Sgwrs
Fawr am Gyllideb, rydym yn nodir risgiau cynyddol i wasanaethau lleol oherwydd
y toriadau yn y gyllideb genedlaethol ac yn disgrifio’r olygfa ar gyfer y
dewisiadau mawr y bydd rhaid i Gyngor Sir y Fflint eu gwneud ar gyfer y
flwyddyn nesaf ar blynyddoedd i ddod.”
“Rydym hefyd yn esbonio sut a phryd rydym yn bwriadu cynnal trafodaeth
gyhoeddus ar y dewisiadau hynny a sut y gall cymunedau a sefydliadau lleol ein
helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ceir dau gyfle i drigolion ymuno â’r
drafodaeth ac mae’n bwysig bod pawb yn cael rhoi eu barn.”
Cynhelir y cam cyntaf rhwng 18 Awst a 12 Medi ac mae wedii ddylunio er mwyn i
drigolion ddweud wrth y Cyngor pun a ydynt yn cytuno â rhai or dewisiadau y
bydd yn rhaid eu gwneud yn y dyfodol ai peidio. Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth
fyw ar Twitter gydag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton ar Prif
Weithredwr, Colin Everett ar 1 Medi.
Bydd yr ail ran yn digwydd ar ddiwedd yr hydref pan gaiff cyfres o
ymgynghoriadau cyhoeddus eu cynllunio i rannu opsiynau ar gyfer y dyfodol a
dewisiadau’r gyllideb. Caiff dyddiadau a lleoliadaur digwyddiadau hyn eu
cyhoeddi’n eang.
Gall pobl ymuno â’r sgwrs drwy ymweld â www.siryfflint.gov.uk/FCCBudget lle
gallant hefyd danysgrifio i e-gylchgrawn newydd y Cyngor
www.siryfflint.gov.uk/emagazine neu ddilyn y sgwrs ar Twitter @CSyFflint.
Gall pobl hefyd roi eu barn drwy gwblhau ffurflen sydd ar gael mewn
llyfrgelloedd, Canolfannau Cyswllt neu dderbynfeydd eraill y cyngor. Y dyddiad
cau ar gyfer ffurflenni (ar-lein a thrwyr post) yw dydd Gwener 12 Medi 2014.
Caiff canlyniadau’r sgwrs eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar wefan y
Cyngor ac yn e-gylchgrawn y Cyngor.