Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dragons’ Den Cymru

Published: 16/04/2014

Anogir darpar entrepreneuriaid o bob oed i gofrestru ar gyfer trydydd Dragons Den Cymru, a gynhelir rhwng 10am a 2pm, ddydd Gwener 9 Mai. Mae’r ‘Dreigiau’ yn awyddus i glywed gan bobl frwdfrydig â syniadau busnes, sydd eisiau bod yn feistr arnynt eu hunain, neu sydd angen help i fod yn entrepreneur. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i’r bobl sy’n cymryd rhan. Fe’i cynhelir yng Ngholeg Cambria yng Nghei Connah, ochr yn ochr â Diwrnod Gwybodaeth i Entrepreneuriaid, lle bydd cyngor a chymorth i fusnesau newydd. Bydd cynrychiolwyr o ddarparwyr addysg lleol, y Ganolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, Busnes Cymru a Chyngor Sir y Fflint wrth law i roi gwybodaeth am swyddi a gyrfaoedd, yn ogystal â chyfleoedd i wirfoddoli a chyngor ar yrfaoedd ar gael. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae digwyddiadau Dragons’ Den Cymru yn hynod llwyddiannus. Mae’r rhain a’n Clybiau Menter Sir y Fflint yn rhai o’r ffyrdd y mae’r Cyngor a Chymunedau yn Gyntaf yn rhoi cymorth ac anogaeth i helpu pobl i gyflawni hyfforddiant neu i gael gwaith. Byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau cael mwy o wybodaeth i gysylltu â Chymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090.” I gael mwy o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â Chymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 neu anfonwch neges e-bost at beverly.moseley@flintshire.gov.uk