Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Menter Sir y Fflint

Published: 21/08/2014

Ydych chi’n ystyried dechrau’ch busnes eich hun neu ydych chi wedi dechrau’ch busnes eich hun yn ddiweddar? Beth am ddod draw i gyfarfod nesaf Clwb Menter Sir y Fflint yn Queensferry? Does dim gwahaniaeth pa fath o fusnes sydd gennych mewn golwg, a does dim proses gofrestru - dewch draw i gyfarfod entrepreneuriaid eraill sydd wrthi’n datblygu, neu wedi datblygu eu busnes eu hunain. Cewch wybod beth sydd ei angen i fod yn entrepreneur, sut i feddwl am syniad da ar gyfer busnes, pwy fyddai’n fodlon buddsoddi yn eich busnes, sut y gallai’r cyfryngau cymdeithasol fod o fudd i’ch busnes a sut i ddatblygu’ch syniad drwy ddefnyddio gwybodaeth a chyngor sydd i’w cael am ddim gan dîm busnes Llywodraeth Cymru a grwp Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint. Yn ogystal â’r gweithdai, cewch eich ysbrydoli gan siaradwyr o sefydliadau a cholegau addysg bellach gan gynnwys Coleg Cambria a Phrifysgol Glyndwr, sydd hefyd yn cefnogi’r rhaglen. Mae’r clwb yn rhad ac am ddim a chynhelir cyfarfodydd bob pythefnos rhwng 10am a 12 hanner dydd ar Gampws Cymunedol John Summers, Dwyrain Ffordd Caer yn Queensferry. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, sy’n Aelod o’r Cabinet: “Byddwn yn annog unrhyw un sydd am ddechrau busnes – neu sy’n ystyried gwneud hynny – i ymuno â Chlwb Menter Sir y Fflint. Un o flaenoriaethau’r Cyngor yw hybu busnesau a chreu gwaith ac mae Cymunedau’n Gyntaf yn Sir y Fflint yn gweithio’n galed i gyflawni’r nod hwnnw.” Cymunedau’n Gyntaf sy’n rhedeg y Clwb Menter a hynny gyda chymorth y Cyngor – cewch ragor o wybodaeth gan Beverly Moseley ar 01244 846090.