Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canlyniadau TGAU 2014
Published: 22/08/2014
Bydd myfyrwyr TGAU ar draws Sir y Fflint yn awyddus i ddathlu heddiw, wrth i
ganlyniadau arholiadau cyhoeddus da gael eu cyflawni unwaith eto yn ysgolion y
Sir.
Cyfanswm y ganran o bobl sydd wedi llwyddo i ennill graddau TGAU (A*-G) yng
Nghymru eleni yw 98.5%, sydd yn 0.2% yn is na’r llynedd. Ar ôl derbyn y
canlyniadau gan Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), y gyfradd llwyddo i fyfyrwyr
yn Sir y Fflint yw 99.5%, mae hyn yn ostyngiad bychan o 0.1% Ar ganlyniadau
record yn ystod yr un cyfnod yn 2013.
Mae’r graddau A*-C a gyflawnwyd yng Nghymru gyfan yn uwch na’r llynedd, i fyny
0.9% o 65.7% yn 2013 i 66.6% yn 2014. Y gyfradd a lwyddodd i ennill y graddau
Uwch (A*-C) yn Sir y Fflint yw 68.2% o holl arholiadau cwrs llawn a safwyd â’r
Bwrdd Cymreig. Mae hyn 1.6% yn uwch na Chymru gyfan ond i lawr ar ffigur
record 2013 o 72.5%.
17.2% yw’r ganran o raddau A ac A* a enillwyd gan fyfyrwyr Sir y Fflint gyda’r
Bwrdd Cymreig yn 2014, ond yn 2013 roedd hi’n flwyddyn record arall sef 20.0%.
Ar draws Cymru gyfan mae’r ffigur hwn wedi codi o 19.2% yn 2013 i 19.4% yn
2014.
Mae’r cyfanswm o bynciau a gofrestrwyd gyda’r Bwrdd Cymreig gan fyfyrwyr Sir y
Fflint ar gyfer arholiadau’r Haf 5.5% yn is na’r llynedd. Mae nifer o fyfyrwyr
Sir y Fflint yn sefyll arholiadau yn gynt yn y flwyddyn nawr yn hytrach nag yng
nghyfnod yr haf. Dylai canlyniadau Sir y Fflint wella ymhellach pan ychwanegir
canlyniadau’r ymgeiswyr a safodd eu harholiadau yn gynnar at rhai cyfnod yr
haf. Caiff y mwyafrif o bynciau eu cofrestru gyda’r Bwrdd Cymreig, ond mae’r
rheini sydd yn sefyll arholiadau â byrddau yn Lloegr wedi gweld cynnydd yn y
gyfradd llwyddo ar draws y sir dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell:
“Ar ran Cyngor Sir y Fflint, fe hoffwn longyfarch ein disgyblion ar eu
canlyniadau TGAU. Unwaith eto mae ein disgyblion wedi perfformio’n dda a
chyrraedd safonau uchel yn eu harholiadau allanol. Fe hoffwn hefyd ddiolch i’r
holl staff yn yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i alluogi i’r myfyrwyr
lwyddo ac i’r holl rieni a gofalwyr sydd wedi rhoi cefnogaeth ac anogaeth i’w
plant.
Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniadau yma yn galluogi i’r myfyrwyr symud ymlaen
i gyrsiau addysg ôl-16 neu ddod o hyd i waith. Rwy’n dymuno pob llwyddiant
iddynt â pha bynnag gwrs y byddant yn ddewis ei astudio.”
Fe ychwanegodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Ian Budd:
“Mae’r Cyngor yn falch o longyfarch y myfyrwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr Sir
y Fflint am y
canlyniadau TGAU da yma. Maent yn ganlyniad i ymrwymiad a gwaith caled ein
myfyrwyr. Gall ein pobl ifanc symud ymlaen â hyder i Addysg Bellach yn Sir y
Fflint. Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein holl fyfyrwyr ar eu llwyddiant.”
NODYN I OLYGYDDION
Ar adeg ei gyhoeddi, mae’r wybodaeth a roddir yn seiliedig ar wybodaeth Bwrdd
CBAC yn unig. Rydym yn aros am fanylion gan ysgolion ynghylch y darlun cyflawn.
Ar ôl i’r data yma, gan gynnwys data gan fyrddau arholi sydd wedi’u lleoli yn
Lloegr ac arholiadau a safwyd yn fuan gan fyfyrwyr Sir y Fflint gael eu
prosesu, sydd ddim ar gael yn ganolog i Awdurdodau Addysg Lleol Cymru, bydd
darlun cliriach yn ymddangos. Mae’n bwysig nodi bod cyfran ystadegol
berthnasol o bynciau TGAU Sir y Fflint yn cael eu
cofrestru âr byrddau yn Lloegr.