Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymuno â Thrafodaeth y Gyllideb Fawr
Published: 01/09/2014
Mae cannoedd o bobl hyd yn hyn wedi cymryd rhan yn Sgwrs Cyllideb Fawr Cyngor
Sir y Fflint, gan roi eu barn am wasanaethaur cyngor lleol ac ymuno yn y ddadl
am y dewisiadau anodd sydd on blaenau.
Ar hyn o bryd, maer Cyngor yn paratoi ar gyfer rhwng 1.5 y cant a 4.5 y cant o
doriad yn ei gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ar 1.5 y
cant byddai angen ir Cyngor ddod o hyd i arbedion o £12miliwn i gwrdd âr
bwlch yn y gyllideb. Os ywr toriad mor fawr â 4.5 y cant, maer bwlch yn tyfu
o £6miliwn ac yna bydd angen dod o hyd i £18miliwn o arbedion.
Diolchodd Arweinydd y Cyngor Aaron Shotton i bawb sydd hyd yn hyn wedi llenwi
ffurflen yn gofyn am farn pobl, syn ymddangos yn e-gylchgrawn newydd y Cyngor
ac ar-lein.
“Mae naw deg pedwar y cant o bron i 400 o bobl sydd hyd yn hyn wedi llenwir
ffurflen yn dweud y dylai pob un ohonom leisio ein barn, fel bod llywodraethau
cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn deall ein pryderon am y risgiau i
wasanaethau lleol. Maen galonogol bod cynifer o bobl wedi cymryd yr amser i
adael i ni wybod eu barn ac maer neges ganddynt yn glir iawn.
Er mwyn ymateb ir pwysau ariannol sylweddol yn y pen draw bydd yn rhaid gwneud
dewisiadau mawr, gan gynnwys blaenoriaethu rhai gwasanaethau dros eraill,
lleihau neu hyd yn oed atal rhai gwasanaethau, disgwyl i bobl deithio ymhellach
am wasanaeth, disgwyl i bobl dalu mwy lle mae yna dâl ar hyn o bryd a chyflwyno
taliadau newydd am wasanaethau sydd ar gael am ddim. Bydd holl wasanaethau’r
Cyngor yn cael eu craffu gan gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol,
gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a chasgliadau gwastraff.
Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton: “Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn parhau i
gymryd rhan yn y ddadl dros yr wythnosau nesaf a helpu i gynllunio’r dyfodol
gyda ni wrth i ni baratoi i wneud dewisiadau mawr y flwyddyn nesaf ac yn y
blynyddoedd i ddod.
Ar gael ar wefan y Cyngor tan 12 Medi, maer ffurflen yn gofyn i bobl a ydynt
yn cefnogi rhai or dewisiadau fydd angen eu gwneud yn y dyfodol. Maen gofyn a
ddylai mwy o wasanaethau gael eu cyfuno â chynghorau cyfagos; a ddylai mwy o
wasanaethau fod yn berchen i a chael eu rhedeg gan bobl leol ac a ddylid gofyn
i gynghorau tref a chymuned a chymunedau lleol wneud mwy.
Gall pobl ymuno âr sgwrs drwy ymweld â www.flintshire.gov.uk/FCCBudget lle
gallant hefyd danysgrifio i www.flintshire.gov.uk/emagazine e-gylchgrawn newydd
y Cyngor neu ddilyn y sgwrs ar Twitter@FlintshireCC.
Mae copïau papur or ffurflen ar gael mewn llyfrgelloedd, Canolfannau Cyswllt
neu dderbynfeydd eraill y Cyngor. Y dyddiad cau, ar-lein a thrwyr post yw dydd
Gwener 12 Medi.
Yn hwyr yn yr hydref mae cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu trefnu i
rannu opsiynau ar gyfer y dyfodol a dewisiadau’r gyllideb. Bydd dyddiadau a
lleoliadaur digwyddiadau hyn yn cael eu hysbysebun eang.
Bydd canlyniadaur sgwrs yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar
wefan y Cyngor ac yn e-gylchgrawn y Cyngor.