Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Safonau Masnach yn helpu dioddefwyr sgamiau i gael eu harian yn ôl
Published: 04/09/2014
Sefydlwyd y Tîm Sgamiau Cenedlaethol gan y Bwrdd Safonau Masnach Cenedlaethol
ac mae’n cael ei gynnal gan Safonau Masnach Dwyrain Sussex. Maent yn gweithio
mewn partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol eraill i ddod o hyd i sgamwyr ac i
atafaelu post sgam a’r arian y maent wedi eu cymryd drwy dwyll gan bobl
ddiniwed.
Mae’r mathau o sgamiau y maent yn dod ar eu traws yn cynnwys honiadau bod pobl
wedi ennill loterïau tramor a gwobrau, triniaethau iechyd gwyrthiol a hyd yn
oed hawliadau etifeddiaeth ffug. Oherwydd yr addewid o symiau mawr o arian mae
rhai pobl yn anfon arian yn y gobaith y byddant yn ennill y gwobrau ffug yma.
Mewn rhai achosion lle maer sgam wedi ei ganfod, mae’r Tîm Sgamiau
Cenedlaethol wedi gallu adennill arian a dalwyd gan y dioddefwyr. Os yw’r
dioddefwr yn byw yn Sir y Fflint, yna bydd swyddog o Safonau Masnach Sir y
Fflint yn ymweld â’r dioddefwr i ddarparu cymorth a chyngor iddo ar sut mae
sgamiau’n gweithio a sut i’w hadnabod ac, mewn achosion lle mae’r arian wedi ei
adennill, yn talu’r arian y maent wedi ei golli yn ôl.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer y
Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Dyma enghraifft ardderchog
o waith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodi
cenedlaethol. Maen amharu ar y sgamwyr ac yn helpur gwasanaeth Safonau
Masnach i’w canfod ac mae hefyd yn cynorthwyo dioddefwyr sgamiau, ac mae rhai
ohonynt yn dioddef dro ar ôl tro.
Meddai Richard Powell, Arweinydd Tîm Ymchwiliadau Safonau Masnach Sir y Fflint:
“Mae sgamiau yn dod yn fwy soffistigedig ac mae hi’n anoddach adnabod y
dioddefwyr. Nid yn unig y mae’r prosiect yma’n rhoi cyfle i ddychwelyd arian i
ddioddefwyr, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i ni eistedd i lawr efo nhw a’u
cynghori au haddysgu ar sut i adnabod sgam.
Rydym ni’n rhoi diweddariadau wythnosol ar ein tudalen Facebook a Twitter ar y
sgamiau diweddaraf a sut i roi gwybod amdanyn nhw, yn ogystal â chymorth ar sut
i adnabod ac osgoi sgamiau.
I roi gwybod am sgam cysylltwch â Safonau Masnach drwy ffonio Llinell Gymorth
Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06 neu Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ewch i
www.actionfraud.police.uk.