Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eich Dyfodol Chi Ydyw

Published: 05/09/2014

Ydi’r farchnad swyddi’n achosi dryswch i chi neu ydych chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant? Dewch draw i ddigwyddiad hyfforddi swyddi a sgiliau yng Nghei Connah i gael gwybodaeth ynglyn â’ch dyfodol. Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, dydd Iau 18 Medi rhwng 11am a 3pm. Bydd busnesau sydd â swyddi lleol a lleoliadau profiad gwaith yn bresennol ar y diwrnod i drafod y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd. Cewch gyngor ymarferol am sut i ddod o hyd i waith gan gynnwys gweithdai ar dechnegau cyfweliad, creu CV a llunio ceisiadau swyddi. Bydd partneriaid addysg bellach ac uwch hefyd yn bresennol i drafod hyfforddiant a chyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned. Bydd cynrychiolwyr o Glwb Mentergarwch Cymunedau yn Gyntaf yn mynychu er mwyn hyrwyddo’r cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheini a hoffai sefydlu eu busnes eu hunain. Bydd Gyrfa Cymru yn cynnig cefnogaeth wedi’i deilwra i rai 16-24 oed ynghyd â mentoriaid y rhaglen Esgyn newydd sydd yn darparu cefnogaeth un-i-un i’r rheini mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na chwe mis ac sydd yn dod o gartrefi di-waith. Yno i gynnig cefnogaeth a chyngor i rieni sy’n dymuno dychwelyd i waith, gael cyngor am fudd-daliadau ac edrych ar wirfoddoli fel opsiwn, bydd ein Cynghorydd rhieni Cymunedau yn Gyntaf. Dyma oedd gan y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd i’w ddweud: “Mae ein ffair swyddi a hyfforddiant yn cynnig cyngor i unrhyw un sy’n chwilio am swydd neu a hoffai drafod â chynghorwyr ynglyn â sgiliau a hyfforddiant. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i bobl ennill sgiliau cyflogadwyedd i sicrhau eu bod yn gymwysedig ar gyfer y swyddi y maent yn dymuno eu cael. Fe fydd yna weithdai, colegau a busnesau lleol yn cynnig cymorth a chefnogaeth i unrhyw un sydd ei angen”. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia neu Kate yn Cymunedau yn Gyntaf ar 01352 703024 / 01244 846090 neu Lynda Mallon yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 01244 583718 / 07833117674.