Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailwampio beddi rhyfel

Published: 10/09/2014

Mae cyn-filwyr o elusen fentora yn adfer beddi rhyfel ledled Sir y Fflint fel rhan o brosiect a fydd yn datblygu canllaw lleol ar gyfer beddi a mynwentydd rhyfel ledled gogledd Cymru yn y pen draw. Bydd gwirfoddolwyr yn mynd i fynwentydd Cei Connah, Treffynnon, Bwcle, Old Flint London Road a Ffordd Llaneurgain, Maes Glas a Threuddyn drwy gydol mis Medi yn cynnig gwasanaethau garddio er mwyn tacluso beddi milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Mae Cam Newid, a arweinir gan elusen o ogledd Cymru sef CAIS, yn wasanaeth mentora a chynghori cyfoedion gan gyn-filwyr i gyn-filwyr sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma ac amryw o broblemau seicolegol eraill sydd am wneud newidiadau positif i’w bywydau. Ers lansio Cam Newid ym mis Mai 2013, mae mentoriaid sy’n gyn-filwyr a chyn-filwyr sy’n cael eu mentora wedi ymuno i helpu cynghorau lleol a grwpiau cymunedol i dacluso safleoedd coffa rhyfel, llwybrau arfordirol, neuaddau cymunedol a thraethau ledled gogledd Cymru. Gyda help grant cymunedol gan Gyfamod y Lluoedd Arfog maent yn bwriadu ymestyn eu rhaglen wirfoddoli a, thrwy ddefnyddio data o Gomisiwn Beddi Rhyfel y Gymanwlad, bydd Cam Newid yn creu gwefan a fydd yn ganllaw lleol ar gyfer beddi rhyfel yng ngogledd Cymru. Bydd yn cynnwys rhestrau a mapiau o bob mynwent yng ngogledd Cymru. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae’r prosiect hwn yn codi ymwybyddiaeth o’r miliynau o fywydau a gollwyd yn ystod y Rhyfeloedd Byd a diolch yn fawr iawn i’r cyn-filwyr am roi o’u hamser i weithio ar y beddi. Mae’n siawns iddynt gymryd rhan yn y gymuned leol yn ogystal â’n hatgoffa o’r aberth y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud wrth wasanaethu eu gwlad.” Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae ein mynwentydd lleol yn ffynhonnell hanes wych ac mae’r cyn-filwyr yn eu gwneud yn fwy hygyrch drwy gynnig y gwasanaeth ardderchog hwn.” Os ydych yn gwybod am fynwent sydd â beddi rhyfel y gallai Cam Newid eu cynnwys yn eu cynlluniau neu i ganfod mwy o wybodaeth am wirfoddoli, cysylltwch â Kimberley Ferguson ar kimberley.ferguson@cais.org.uk neu ffoniwch 01492 523 821. Os hoffech wybod mwy am brosiect Cam Newid edrychwch ar y wefan sef www.changestepwales.co.uk neu ffoniwch 0300 777 2259.