Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy 2014

Published: 10/09/2014

Cynhelir Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy eleni ddydd Gwener 19 Medi a dydd Sadwrn 20 Medi. Mae’r digwyddiad glanhau blynyddol, a gydgysylltir gan Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Gorllewin Swydd Caer a Dinas Caer a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn ôl. Am ddeuddydd, ledled gogledd Cymru a swydd Caer, bydd gwirfoddolwyr, grwpiau cadwraeth a busnesau yn ymuno â gwasanaethau’r cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru i weithio’n galed i glirio’r sbwriel afonol a morol sy’n casglu ar hyd Afon Dyfrdwy a pheintio a gofalu am y mannau arbennig ar hyd ei glannau a’r arfordir, o fynyddoedd Cymru i gynefinoedd arfordirol aber y Dyfrdwy. Y llynedd, cymerodd cannoedd o bobl ran, a chasglwyd cannoedd o fagiau o sbwriel ar draws y rhanbarth. Yn Sir y Fflint, cafodd yr ymdrechion eu cydgysylltu gan Geidwaid yr Arfordir a Gwasanaethau Sryd y Cyngor. Mae ceidwaid yr arfordir hefyd yn achub ar y cyfle i weithio gyda grwpiau cymunedol i blannu coed, bylbiau a helpu i adfer cynefinoedd tir gwlyb ar hyd morlin y sir gyda gwirfoddolwyr cymunedol. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd: “Dyma’r wythfed tro i Ddiwrnod Mawr Afon Dyfrdwy gael ei drefnu ar aber y Dyfrdwy ers 2007. Mae nod y digwyddiad o lanhau ein harfordir ar gyfer ymwelwyr a bywyd gwyllt yn cael ei gyflawni. Mae hyn, ochr yn ochr â gwaith ar Lwybr Arfordir Cymru, yn gwneud ein harfordir yn un gwerth ymweld ag ef. Fel digwyddiad trawsffiniol rydym yn mynd i’r afael â phroblem genedlaethol a rhyngwladol gyda phobl,busnesau a chymunedau Sir y Fflint. Cofiwch fod digon o amser ar ôl i gymryd rhan os hoffai unrhyw un wneud ei ran dros ein moroedd a’n cymunedau arfordirol.” Meddai’r Uwch Geidwad Mike Taylor: “Mae hwn yn ddigwyddiad da i fywyd gwyllt ac i’n cymunedau, ac mae’n gyfle i bawb gael effaith ar ein hamgylchedd leol. Ein nod yw clirio pob darn o blastig y gallwn gael gafael arno yn ddiogel cyn pen 48 awr o Dalacre ac Ynys Hilbre i Gaer a Llangollen. Os oes gennych grwp a hoffai gymryd rhan, byddem yn falch iawn o glywed gennych.” Ffoniwch y Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah ar 01244 814931 am wybodaeth ynglyn â digwyddiadau a gynhelir yn Sir y Fflint. Nodiadau i Olygyddion Sefydlwyd Diwrnod Mawr Afon Dyfrdwy gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, sy’n rhan o Gyngor Sir y Fflint, yn 2007, ac mae wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers hynny. Dechreuodd y syniad i ddechrau ar draeth Talacre pan benderfynodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a’i bartneriaid BHP Billiton, Presthaven Sands, Talacre Beach Club, y gymuned leol a Chyfoeth Naturiol Cymru, gynnal arolwg o’r traeth er mwyn tynnu sylw at sbwriel morol a’r difrod y mae’n ei wneud. Ers hynny, mae Cyngor Gorllewin Swydd Caer a Dinas Caer, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Cilgwri a Pharc Cenedlaethol Eryri bellach, yn ogystal â nifer o wirfoddolwyr a busnesau lleol eraill, gan gynnwys Airbus, Kingspan, a Kimberly Clark – hefyd wedi ymuno ac mae’r digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth. Mae miloedd o fagiau a sbwriel wedi cael eu casglu gan gannoedd o wirfoddolwyr, ac mae’r digwyddiad eleni yn argoeli i fod y mwyaf erioed!