Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Agored yr Archifdy
Published: 16/09/2014
Mae Archifdy Sir y Fflint ar agor ir cyhoedd ddydd Sadwrn 20 Medi er mwyn i
ymwelwyr allu archwilio’r adeilad rhestredig Gradd II a dod i wybod mwy am ei
hanes.
Maen gyfle i weld Yr Hen Reithordy, dod o hyd i lle roedd Rheithoriaid
Penarlâg yn byw, lle y bu farw un o Archesgobion Caergaint a dysgu am ei
drigolion or 18fed ganrif hyd heddiw.
Mae teithiau tywys yn cychwyn am 11am a 12.30pm a byddant yn cynnwys nodweddion
pensaernïol yr adeilad, tu ôl ir llenni yn yr ystafelloedd diogel lle mae
cofnodion hanesyddol y Sir yn cael eu cadw, ac ymweliad diddorol âr Stiwdio
Gadwraeth.
Yn ogystal â hyn, bydd lluniaeth a helfa drysor gyda gwobrau. Maer digwyddiad
am ddim ac yn cael ei gynnal rhwng 10am a 2pm.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Dewch draw i
ymweld âr adeilad hanesyddol hyfryd hwn. Nid yn unig y maer adeilad ei hun yn
llawn hanes, mae’n llawn deunydd archif gwych syn gofnod o hanes ein hardal.
Maen gyfle gwych i weld beth syn mynd ymlaen yn yr Archifdy.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01244 532364 neu anfonwch e-bost at
archives@flintshire.gov.uk