Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Safonau Masnach yn taclo masnachwyr ffug
Published: 15/04/2014
Fel rhan o wythnos Genedlaethol Masnachwyr Twyllodrus, mae Swyddogion Safonau
Masnach ar draws Gogledd Cymru wedi bod allan yn patrolio’r ardal i gadw llygad
am fasnachwyr twyllodrus sy’n gweithredu yn yr ardal.
Gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru, roedd swyddogion yn chwilio am droseddau yn
ymwneud â hawliau canslo defnyddwyr, technegau gwerthu ymosodol a gwaith
diangen yn gysylltiedig â “galw di-wahoddiad”. Rhoddwyd cyngor hefyd i
fasnachwyr ar eu hymrwymiadau cyfreithiol.
Ddydd Mercher, fel rhan o ddiwrnod o ymgyrchu, bu swyddogion yng Ngogledd Cymru
yn siarad â thros 70 o fasnachwyr, yn cynnig cyngor a gwybodaeth. Mewn un
digwyddiad, canfuwyd bod un masnachwr wedi cychwyn gwaith heb gynnig gwybodaeth
i breswyliwr ar hawliau canslo cytundeb, ac yn dilyn ymyrraeth gan swyddogion,
penderfynodd y masnachwyr adael heb gwblhaur gwaith y cytunwyd arno. Canfuwyd
nad oedd y gwaith oedd eisoes wedii gwblhau yn safonol.
Yn ogystal, roedd swyddogion wrth law mewn amryw o ddigwyddiadau ar hyd a lled
Gogledd Cymru yn ystod yr wythnos i roi cyngor ac arweiniad i drigolion lleol
ar sut i ddelio â galwyr di-wahoddiad.
Un o’r prif faterion a nodwyd gan swyddogion yw nad yw llawer o drigolion yn
riportio gweithrediadau “Masnachwyr Twyllodrus”.
Mae Kevin Jones, Prif Reolwr Safonau Masnach Wrecsam a Chadeirydd Grwp
Penaethiaid Safonau Masnach Gogledd Cymru yn annog trigolion i fod yn ymwybodol
a dweud wrth yr awdurdodau os bydd masnachwyr twyllodrus yn galw’n
ddi-wahoddiad yn eu hardal yn cynnig gwneud gwaith garddio, torri coed, gosod
tarmac, trwsio toeau a mân dasgau cyffredinol.
Dywedodd: “Gall gwaith y masnachwyr hyn fod yn wael ac wedyn byddant yn codi
tu hwnt i bob rheswm am y gwaith hwnnw, yn gofyn am arian parod ac yna’n
diflannu. Fel arfer, mae’n amhosibl dod o hyd iddynt pan fod pethau’n mynd o
chwith gan eu bod yn rhoi enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn ffug. Er nad yw pob
masnachwr stepen drws yn ‘dwyllwyr’, mae llawer yn gwbl gyfreithlon ac yn
cynnig gwasanaeth da, mae rhai ohonynt yn manteisio ar yr henoed neu aelodau
diamddiffyn o’r gymdeithas.”
Dywedodd Emlyn Jones, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd Sir Ddinbych ac aelod o Grwp
Penaethiaid Gwarchod y Cyhoedd Gogledd Cymru “Mae swyddogion o bob awdurdod
lleol wedi bod yn siarad â phobl ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn gobeithio y
bydd yr unigolion hynny nid yn unig yn dilyn y rheolau syml wrth ddelio â
galwyr di-wahoddiad, ond hefyd yn rhannu’r neges i’w cymdogion a theulu.
“Mae parthau dim galw di-wahoddiad yn ffordd dda o annog masnachwyr i beidio
gweithredu mewn rhai ardaloedd penodol gan y gallai unrhyw fasnachwyr sy’n galw
heb wahoddiad mewn Parth Dim Galw Di-Wahoddiad fod yn cyflawni trosedd. Dylai
unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth am barthau rheoli galw di-wahoddiad
gysylltu âu swyddfa Safonau Masnach leol drwy rif Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor
ar Bopeth ar 08454 04 05 05 neu 08454 04 05 06 ar gyfer y Gwasanaeth Saesneg
neu gydlynydd eu cynllun Gwarchod y Gymdogaeth leol.
Ychwanegodd Julie Sheard, Arolygydd Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru:
“Os oes amheuaeth, cadwch nhw allan yw’r neges syml i’w chofio pan fydd rhywun
yn curo ar eich drws. Os ydych yn pryderu am unrhyw un yn eich cymdogaeth sy’n
‘curo’ ar y drws yn cynnig gwneud gwaith cynnal a chadw’r cartref, gwnewch
nodyn o wneuthuriad, model, lliw a rhif cofrestru eu cerbyd ac unrhyw
ddisgrifiadau or unigolion, a chysylltu naill ai â’r heddlu ar 101 neu Safonau
Masnach trwy Wasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth neu’n ddienw i Taclor Tacle
ar 0800 555 111. Os ydych chi’n teimlo’n ofnus neu o dan fygythiad gan unrhyw
werthwr stepen drws, dylech gau’r drws a ffonio rhif argyfwng yr heddlu sef
999. Bydd Heddlu Gogledd Cymru’n parhau i weithio’n mewn partneriaeth agos â
Safonau Masnach ar draws Gogledd Cymru i fynd ir afael â’r math hwn o
ymddygiad troseddol sy’n gwbl annerbyniol.