Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tîm Prydau Ysgol yn yr wyl

Published: 15/09/2014

Bydd Tîm Prydau Ysgol Sir y Fflint yn hyrwyddo bwytan iach yng Ngwyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug drwy gynnal rownd derfynol fyw or gystadleuaeth Dewch i Goginio. Mae plant o bob rhan or sir wedi bod yn cymryd rhan yn y rowndiau cymhwyso ers Wythnos Bwytan Iach ym mis Mehefin a bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn arddangos eu gallu coginio ar y Bws Coginio symudol yn y digwyddiad ar 20 a 21 Medi. Gwahoddwyd disgyblion i gyflwyno eu ryseitiau eu hunain ar gyfer y gystadleuaeth sydd â’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o gydbwysedd maethlon prydau ysgol a hyrwyddo cynnyrch lleol. Roedd yn rhaid ir ryseitiau gynnwys o leiaf dau o gynhwysion lleol; prif gwrs a phwdin, cymryd dim mwy nag 1.5 awr i’w paratoi a’u coginio; darparu pryd cytbwys ac ni ddylair cynhwysion gostio mwy na £5. Bydd plant o ysgolion cynradd Ysgol Llanfynydd, Ysgol Glanrafon, Ysgol Gwenffrwd ac Ysgol Penyffordd a disgyblion uwchradd o Ysgolion Uwchradd Castell Alun ac Argoed yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth goginio. Dros y penwythnos, mae Gwasanaeth Prydau Ysgol Sir y Fflint yn croesawu disgyblion a phlant i gymryd rhan mewn sesiynau coginio syn addas i’w hoedran ar y bws gydar nod o annog plant i fod yn gogyddion hyderus a chodi ymwybyddiaeth o Brydau Ysgol Sir y Fflint. Maer Bws Coginio ar agor rhwng 10am a 4.45pm ac mae mynediad am ddim. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Am ffordd wych i hyrwyddo bwytan iach drwy gael y plant i gymryd rhan, nid yn unig wrth goginio’r prydau bwyd, ond drwy gynllunio, dod o hyd i gynhwysion, y gyllideb a sut i ddarparu pryd cytbwys iach. “Pob lwc i bawb syn cymryd rhan a byddwn yn annog pawb i ymweld âr Bws Coginio symudol i flasur bwyd gwych sydd ar gael. Nodyn ir Golygydd Fech gwahoddir i anfon ffotograffydd ir rownd derfynol fyw o’r gystadleuaeth rysáit Dewch i Goginio ddydd Sul 21 Medi yn y prynhawn ar y Bws Coginio yng Ngwyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug. Teitl y Llun: Y Bws Coginio