Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Marchnad Yr Wyddgrug

Published: 16/09/2014

Bydd Marchnad yr Wyddgrug ar agor dros benwythnos 20 a 21 Medi i gyd-fynd â Gwyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug. Bydd ymwelwyr yn gallu blasu hyfrydwch Marchnad enwog canol tref yr Wyddgrug ar y Stryd Fawr, sydd ar agor Ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 9am a 4pm. Gall siopwyr edrych ar dros 30 o stondinau sy’n gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau gan gynnwys offer cartref, dillad a chynnyrch lleol, y dewis da o siopau annibynnol mawr a chael eu hysbrydoli gan yr Wyl Fwyd a Diod wych. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: Maen siwr y bydd yr awyrgylch yn yr Wyddgrug yn wych gydar farchnad ar agor ddydd Sadwrn a dydd Sul, gan gynnwys cannoedd o ymwelwyr â’r Wyl Fwyd a Diod. Byddwn yn pawb i gefnogi yr Wyddgrug ac ymweld âr ardal dros y penwythnos.