Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Beicio ir Gwaith

Published: 18/09/2014

Mae Cynllun Beicio i’r Gwaith Cyngor Sir y Fflint yn ei ôl ac yn rhedeg rhwng 15 Medi 2014 a 3 Hydref 2014. Mae Beicio i’r Gwaith yn gynllun heb Dreth nac Yswiriant Gwladol arno i hyrwyddo teithiau iachach ir gwaith ac i leihau llygredd a thagfeydd. Trwy gymryd rhan yn y cynllun gall gweithwyr arbed ar gyfartaledd hyd at 25 y cant oddi ar gost beic mewn treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn dibynnu ar fand treth incwm yr unigolyn. Maer Cyngor eisiau dangos manteision y cynllun Beicio ir Gwaith ac annog cyflogwyr eraill i gynnig dulliau eraill o gludiant i’w gweithwyr ac i hyrwyddo beicio fel rhan o fywyd bob dydd sy’n heini ac yn iach. Gall cyflogwyr o bob maint ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol weithredu cynllun benthyca sydd heb dreth arno i’w gweithwyr. FFe lansiodd Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad â P & MM, sef asiantaeth gwasanaethau marchnata sydd wedi ennill gwobrau am ei wasanaeth ac syn arbenigo mewn gwella perfformiad, y cyfle cyntaf i gymryd rhan yn y cynllun ym mis Awst 2009. Ers lansio’r cynllun mae tua 302 o weithwyr wedi cymryd rhan yn y cynllun. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae buddion gwych i’r cynllun Beicio ir Gwaith o wella iechyd i helpur amgylchedd. Maer Cyngor wedi bod yn rhan ohono ers pedair blynedd a byddem yn annog unrhyw un syn gallu i ymuno âr cynllun beicio ir gwaith. Dim ots beth yw maint eich busnes, gall pawb gymryd rhan a byddem yn argymell y cynllun i bob cyflogwr yn y Sir. Gall gweithwyr y Cyngor gofrestru i gymryd rhan yn y Cynllun Beicio ir Gwaith rhwng 15 Medi 2014 a 3 Hydref 2014. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Beicio ir Gwaith ewch i wefan yr Adran Drafnidiaeth ar http://www.dft.gov.uk/pgr/sustainable/cycling/cycletoworkguidance/