Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Monitror Cynllun Gwella
Published: 30/09/2014
Mae Aelodau wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd Cynllun Gwella Cyngor
Sir y Fflint.
Maer Cyngor yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwelliant bob blwyddyn yn
y Cynllun Gwella, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau
a safonau byw ledled y Sir. Mae’r cynllun o gymorth i’r sefydliad ganolbwyntio
ar rai meysydd ac fei rhennir yn wyth prif flaenoriaeth, sef yr Amgylchedd,
Tai, Byw yn Dda, Tlodi, yr Economi a Menter, Sgiliau a Dysgu, Cymunedau Diogel
a Chyngor Modern ac Effeithlon.
Maer adroddiad monitro yn rhoi esboniad or cynnydd a wneir, ac yn dangos a
ywr Cyngor ar y trywydd iawn i gyflawni’r effeithiau a ddymunir.
Maer blaenoriaethau ar gyfer cynllun eleni yn cynnwys:
· Gweithredur strategaeth i dyfu a chynnal y sector rhentu preifat drwy
gynllun busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru
· Atal digartrefedd o dan Byw’n Dda
· Buddsoddi yn wyth prif gynllun Canol y Dref fel rhan o Economi a Menter
· Adnabod sectorau gyda bylchau mewn sgiliau er mwyn datblygu prentisiaethau a
rhaglenni eraill a buddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer Sgiliau a Dysgu
· Cymunedau Diogel yn gweithio tuag at gadw pobl yn ddiogel drwy edrych ar
gam-drin domestig, trais rhywiol ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol
· Darparu gwasanaethau cyngor a chefnogaeth er mwyn helpu pobl i warchod eu
hincwm o dan y flaenoriaeth Dlodi
· Datblygu cynigion ar gyfer cludiant cydlynol ar draws y rhanbarth fel rhan
or flaenoriaeth Amgylcheddol
· Rhoi’r model gweithredu arfaethedig ar gyfer y dyfodol ar waith er mwyn ir
Cyngor wneud Cyngor Modern ac Effeithlon.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol:
“Drwy fonitro Cynllun Gwellar Cyngor ar wahanol gamau yn ystod y flwyddyn,
gallwn weithio allan a ydym yn mynd i gyrraedd y targedau a gwella gwasanaethau
i breswylwyr.
“Mae pob adroddiad yn dangos faint o gynnydd maer Cyngor yn ei wneud o ran y
nodau ar gyfer yr amgylchedd, tai, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, diogelwch
cymunedol, yr economi a menter, rheoli’r cyngor a diwygio lles.”
Dywedodd Colin Everett: “Mae’r cynnydd da sydd yn y Cynllun Gwella yn dangos
ein bod yn gyngor syn perfformion dda, gan wneud argraff fawr mewn meysydd
syn bwysig ir gymuned a gwasanaethau lleol.”