Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Maes Parcio Traeth Talacre
Published: 15/04/2014
Bydd lleoedd parcio yn brin iawn ym maes parcio traeth Talacre dros benwythnos
y Pasg oherwydd y llanwau uchel a’r stormydd sydd wedi bod yno yn ddiweddar.
Mae stormydd mis Rhagfyr 2013 ac Ionawr 2014, ynghyd â’r llanwau uchel bob mis
yn golygu fod wyneb prif faes parcio’r traeth, sy’n perthyn i Gyfoeth Naturiol
Cymru a chwmni Eni Liverpool Bay Operating Company, yn anaddas ar hyn o bryd.
Er lles diogelwch y cyhoedd bydd prif faes parcio’r traeth yn aros ar gau nes
i’r amodau wella i’n caniatáu i agor y maes parcio am weddill y flwyddyn.
Prosesau naturiol fydd yn penderfynu pryd y bydd y maes parcio yn ailagor yn
llawn, ond disgwylir i’r wyneb sychu mewn rhyw bythefnos i dair wythnos os bydd
y tywydd yn dda.
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd:
“Gwyddom fod y Pasg yn gyfnod prysur i ymwelwyr ond yn anffodus oherwydd
amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth mae’r lleoedd parcio yn gyfyngedig dros
benwythnos y gwyliau. Ar ôl i’r tywydd wella dylai wyneb y prif faes parcio
sychu a bydd modd ei ddefnyddio eto.”
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i bobl ystyried trigolion a busnesau lleol a
pharcio yn gyfrifol ym mhentref Talacre dros gyfnod y gwyliau.