Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ar Ysgol Saltney

Published: 19/09/2014

Mae cynigion i newid ystod oedran ysgol uwchradd leol yn debygol o gael eu gwneud ar ôl i ganlyniadau ymgynghoriad ar ysgolion Saltney gael eu trafod mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (16 Medi). Bydd Cynghorwyr yn rhoi cymeradwyaeth i gyhoeddi cynigion ffurfiol i newid yr ystod oedran yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant i newid o 11-18 i 11-16 ym mis Medi 2016. Maer newidiadau hyn yn rhan or adolygiad ehangach o addysg ôl-16 gan Gyngor Sir y Fflint. Ymgynghorwyd â’r cyhoedd yn ardal Saltney ar ddau ddewis; newid yr ystod oedran i gaur chweched dosbarth ac uno Ysgol Gynradd Saltney Ferry gydar Ysgol Uwchradd a newid yr ystod oedran isaf yn unol â hynny. Roedd y mwyafrif o blaid caur chweched dosbarth ond yn anghytunon gryf ag uno ar gyfer yr ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd gwaith pellach nawr yn cael ei wneud gydag Ysgol Uwchradd Dewi Sant ac ysgolion cynradd lleol i hyrwyddo cydweithio agosach a chynlluniau posibl ar gyfer partneriaethau. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Lle mae gan chweched dosbarth lai na 120 o ddisgyblion, maer Cyngor yn argymell eu bod yn mynychur ganolfan chweched dosbarth newydd yng Nghei Connah gan gynnig dewis llawer ehangach i nifer mwy o fyfyrwyr a bydd yr ystod oedran yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn newid i adlewyrchu hyn.