Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun datblygu tai arloesol ar gyfer Sir y Fflint

Published: 19/09/2014

Bydd y camau nesaf mewn rhaglen arloesol i adeiladu cartrefi newydd fforddiadwy yn Sir y Fflint yn cael eu trafod gan aelodau o Gabinet y Cyngor ddydd Mawrth 16 Medi. Maen rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol uchelgeisiol Sir y Fflint, syn canolbwyntio ar waith ailddatblygu sylweddol y Fflint, ond hefyd yn cynnwys datblygiadau tai posibl mewn rhannau eraill or sir. Mae Prif Gynllun y Fflint wedi nodi safleoedd ar gyfer adfywio tai i ddarparu cartrefi newydd yn y dref, ac yn dilyn rhaglen raddol ofalus sydd ar y gweill ar hyn o bryd i wagio, ac yn y pen draw, dymchwel fflatiau deulawr y Fflint. Bydd bron i chwarter y dref ganoloesol wreiddiol a gynlluniwyd yn cael ei hail-ddatblygu gyda thai a strydoedd newydd yn ategu at y Fflint ai hanes. Maer cynigion ar gyfer darpariaeth tai cymysg ar gael ar gyfer rhent y Cyngor a rhent fforddiadwy. Mewn mannau eraill ar draws y sir, mae safleoedd datblygiadau tai posibl eraill ar dir syn eiddo ir Cyngor wedi’u nodi, a allai hefyd roi cyfanswm o 220 o unedau tai. Gofynnir i Gynghorwyr nawr i gymeradwyo’r gwaith o gychwyn proses gaffael ar gyfer cynigydd a ffafrir ar gyfer y contract datblygu a ffynhonnell y cyllid posibl. Hysbysebir hyn 25 Medi trwy GwerthwchiGymru ar Cyfnodolyn Ewropeaidd, gydar bwriad o ddyfarnur contract ym Mai 2015. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai: “Dyma gyfnod cyffrous iawn i bobl y Fflint a rhannau eraill or Sir. Rwyf yn falch iawn bod yr elfen dai o Gynllun Meistr y dref yn symud ymlaen mewn ffordd mor gadarnhaol ac adeiladol, a bod y cynllun SHARP yn cwmpasu cylch gwaith ehangach i helpu i ddarparu tai sydd wir eu hangen mewn rhannau eraill or sir. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Maer Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddarparu tai fforddiadwy newydd, gan gynnwys Tai Cyngor newydd ar draws Sir y Fflint, mae adfywio’r Fflint yn rhoi cyfle arbennig o gyffrous i ni ddechrau cyflawni ein blaenoriaethau.