Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr troed yn Nhreuddyn

Published: 24/09/2014

Mae llwybr troed poblogaidd yn Nhreuddyn wedi ailagor yn dilyn gwaith trwsio. Difrodwyd y llwybr troed syn rhedeg or A5104 i Eglwys y Santes Fair, yn ardal gadwraeth Treuddyn, yn ystod y tywydd garw ym mis Mawrth 2013 ar ôl i goeden fawr ddymchwel a dinistrio 10-15m o’r llwybr. ‘Church Walk’ yw’r enw lleol ar y llwybr poblogaidd hwn, a chafodd ei gau dros dro tra bod contractiwr yn ymgymryd â’r gwaith trwsio ar ran Cyngor Sir y Fflint. Fel rhan o’r gwaith, cafodd y gamfa a’r giât cwn ei wella, a chodwyd ffens newydd. Dywedodd y Cynghorydd Sir Lleol, Carolyn Thomas: Maen braf gweld y llwybr hwn yn agor eto i gerddwyr ei fwynhau. Yn hanesyddol, maen llwybr poblogaidd a bydd pobl leol yn falch bod y gwaith trwsio wedi’i gwblhau a bod y llwybr yn awr yn ddiogel i gerddwyr. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Mae swyddogion y Cyngor yn gwneud gwaith gwerthfawr wrth gynnal a chadw’r rhwydwaith o lwybrau troed a llwybrau beicio i drigolion ac ymwelwyr fedru mwynhau cefn gwlad hardd Sir y Fflint “Mae’n dasg barhaus sicrhau bod ein llwybrau’n parhau ar agor ar gyfer gweithgareddau hamdden yn ac mae’n braf gweld llwybr poblogaidd arall yn cael ei ddefnyddio eto.” Yn y llun o’r chwith i’r dde: Stuart Jones, Mary Pearson, Bryan Pearson, Meg y ci, John Davies a’r Cynghorydd Carolyn Thomas. Pennawd: Y llwybr wedi’i ddifrodi