Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdai Lego i deuluoedd

Published: 24/09/2014

Mae Lego, y cwmni teganau plant adnabyddus, yn rhan o fenter i annog teuluoedd Sir y Fflint i gefnogi addysg eu plant. Mae’r prosiect Mynd ir Afael â Thlodi: Datblygu Sgiliau a ariennir gan NIACE Cymru ac a drefnir gan Gymunedau yn Gyntaf Gorllewin Sir y Fflint gyda Llyfrgelloedd Sir y Fflint a G2G Communities CIC wedi sefydlu nifer o weithdai dysgu teuluol Lego yn yr Wyddgrug, y Fflint a Threffynnon. Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf ddydd Iau 11 Medi yn Llyfrgell yr Wyddgrug dan arweiniad staff o G2G Communities CIC. Ar ôl cwblhau’r her gychwynnol, sef adeiladu twr sefydlog gan ddefnyddio 15 o ddarnau o Lego, aeth pob plentyn ati i adeiladu rhan o barc thema Lego ar gyfer pobl Lego. Yna, ymunodd y teuluoedd i greu robotiaid o git drwy ddilyn cyfarwyddiadau ar sgrin cyfrifiadur Meddai Janiene Davies, Swyddog Dysgu Cymunedau yn Gyntaf: Dymar cyntaf mewn nifer o weithdai dysgu teuluol syn cael eu trefnu yn y gymuned ac syn rhoi cyfle i genedlaethau gwahanol ddysgu gyda’i gilydd. Mae’n helpu rhieni a gofalwyr i gymryd mwy o ran yn addysg eu plant a’u cefnogi.” Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: Gall cefnogi plant yn eu haddysg wneud gwahaniaeth enfawr i’w gwaith ysgol a’u canlyniadau mewn arholiadau yn y pen draw, felly maen arbennig o bwysig cymryd diddordeb pan fyddant yn ifanc iawn” Cewch ragor o wybodaeth am y gweithdai yn llyfrgelloedd yr Wyddgrug, y Fflint a Threffynnon neu cysylltwch â Janiene ar 01352 705931 neu janiene_davies@flintshire.gov.uk. Llun: Shafira a Dyfan yn cymryd rhan yn y gweithdy Lego gyda’u tad.