Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobr Ysgolion Iach
Published: 26/09/2014
Mae ysgol gynradd yn Sir y Fflint wedi ennill gwobr genedlaethol nodedig syn
cydnabod ei hymrwymiad i gynllun hybu iechyd a lles.
Ysgol Bryn Coch yn yr Wyddgrug ywr drydedd ysgol yn y sir i ennill Gwobr
Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach a gaiff ei rhoi i ysgolion sydd wedi
cyrraedd y safonau uchaf o ran iechyd a lles. Er mwyn ennill y wobr hon, mae
ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun am o leiaf naw mlynedd, ac yn ymdrin â
saith thema iechyd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef
• Bwyd a ffitrwydd
• Yr amgylchedd
• Hylendid
• Iechyd meddwl ac emosiynol a lles
• Datblygiad personol a pherthynas pobl â’i gilydd
• Diogelwch
• Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
Dechreuodd yr ysgol y cynllun yn 2002 a chaiff ei redeg gan y Cydlynydd ABCh,
Mrs Dawn Jones. Maer holl staff ynghlwm wrth y cynllun ac yn gwerthfawrogi
pwysigrwydd iechyd a lles yng nghymuned yr ysgol gyfan.
Dywedodd Mrs Lynne Williams, y Pennaeth: Rydym yn hynod falch o dderbyn y Wobr
Ansawdd Genedlaethol gan Rwydwaith Cymru o’r Cynllun Ysgolion Iach. Y wobr hon
yw penllanw blynyddoedd lawer o waith caled yn newid agweddau a ffordd o fywr
disgyblion, y rhieni a’r staff.
“Hoffwn ddiolch ir plant sydd wedi derbyn yr holl newidiadau, er enghraifft
bwyta ffrwythau yn lle creision amser chwarae, ir rhieni sydd wedi helpu i
gadarnhau’r neges ysgolion iach a darparu pecynnau bwyd iach ac i’r staff ,
staff amser cinio a llywodraethwyr sydd wedi hyrwyddo pob un or saith pwnc
iechyd.
Diolch hefyd ir Awdurdod Addysg Lleol, yn enwedig Claire Broad sydd wedi
cefnogir ysgol drwy gydol y cyfnod. Rwy’n falch iawn dros Mrs Dawn Jones a
phawb syn ymwneud â’r cynllun, gan dywys yr ysgol at y wobr bwysig hon, sydd
wedi gwella lles y 658 o ddisgyblion yn yr ysgol.”
Yn yr adroddiad asesu, dywedodd y prif asesydd…
“Da iawn wir a diolch i holl ddisgyblion Ysgol Bryn Coch am helpu i sicrhau bod
eich ysgol yn lle hapus ac iach! Mae gennych ysgol wych lle gallwch nid yn unig
ddysgu, ond lle cewch hefyd ddigon o gyfle i gymryd rhan mewn gwahanol
weithgareddau a “disgleirio” mewn cynifer o wahanol ffyrdd.”
Dywedodd Ian Budd, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid: Rwyn hynod falch o
lwyddiant yr ysgol. Mae staff, disgyblion, rhieni a chymuned yr ysgol gyfan i’w
canmol am eu cefnogaeth barhaus ir cynllun.”
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg:
“Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Bryn Coch. Maent yn llwyr haeddu’r wobr a’r
gydnabyddiaeth gan y Cynllun Ysgolion Iach ar ôl gweithio’n galed am 12
mlynedd. Dylai bob un ohonoch fod yn falch o’r hyn rydych wedi’i gyflawni.”
Yn y llun: Lynne Williams (Pennaeth), Merrill Tanton (Cadeirydd y
Llywodraethwyr), Claire Homard (Prif Swyddog Cynradd Cyngor Sir y Fflint),
Dianne Hunt (yn helpu’r plant i ddal y wobr) (Swyddog Ysgolion Iach Cyngor Sir
y Fflintl ), y Cynghorydd Ray Hughes (Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint), Dawn
Jones (Cydgysylltydd Ysgolion Iach ac Athrawes yn Ysgol Bryn Coch) gyda phlant
Cyngor Ysgol Bryn Coch.