Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr i Archifdy Sir y Fflint.

Published: 16/04/2014

Mae Archifdy Sir y Fflint wedi ennill gwobr genedlaethol yng Ngwobrau Marchnata Arloesol Llyfrgelloedd ac Archifau Cymru 2014 - gan ennill cymeradwyaeth uchel yn y categori Gwasanaethau Archifdy am ddau ddigwyddiad fis Tachwedd diwethaf. Trefnodd Archifdy Sir y Fflint y digwyddiadau i dynnu sylw at Wythnos Chwilio yn eich Archifdy. Cafwyd sgwrs ar y cyd, rhwng Paul Brighton o Gymdeithas Pennant a Mark Allen, Cadwraethwr Archifdy Sir y Fflint pan oedd cyfle i weld copi Thomas Pennant o’i gyfrol ‘History of the Parishes of Whiteford and Holywell’ (1796) a’i ddarluniadau. Caiff y copi hwn ei gadw yn yr Archifdy. Cafwyd hanes y broses o rwymo llyfrau, gan Mark Allen a gyfeiriodd yn benodol at gyfrol Pennant ac, yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos, cynhaliwyd gweithdy rhwymo llyfrau. Roedd y gwobrau ar agor i bob gwasanaeth llyfrgell ac archifau yng Nghymru a’r nod oedd cydnabod a gwobrwyo gweithgareddau marchnata arloesol yn ystod y flwyddyn a dathlu a hyrwyddo’r gwaith pwysig hwn. Ymgeisiodd 36 am y gwobrau, gan gynnwys llyfrgelloedd addysg, addysg bellach a llyfrgelloedd iechyd a gwasanaethau archifdai. Dr Jonathan Deacon, darlithydd Marchnata ac Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol De Cymru ac ymddiriedolwr Sefydliad Siartredig Marchnata Cymru oedd y beirniad. Dywedodd Claire Harrington, Prif Archifydd Archifdy Sir y Fflint: “ Rydym yn hynod falch ein bod wedi ennill y wobr hon am eich sgwrs ar Thomas Pennant a’n gweithdy rhwymo llyfrau. Cafodd y staff a oedd ynghlwm wrth y prosiect gryn foddhad ac rwy’n siwr bod hyn wedi cyfrannu at ein llwyddiant. Rydym wrth ein boddau’n bod wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am ein gwaith.” Un rhan o raglen marchnata a datblygu cynulleidfa genedlaethol Llywodraeth Cymru yw’r Gwobrau Marchnata Arloesol. Pennawd: Mark Allen, Cadwraethwr a Stephanie Hines, Archifydd gyda Gwobr Marchnata Arloesolt. Nodiadau i Olygyddion: Cyswllt: Ffoniwch Claire Harrington, Prif Archifydd Archifdy Sir y Fflint ar 01244 532414