Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wyneb newydd ar yr A5119 yn y Fflint
Published: 26/09/2014
Fel rhan o raglen Cyngor Sir y Fflint i roi wyneb newydd ar ffyrdd, bydd gwaith
yn dechrau ar yr A5119, Ffordd Llaneurgain, y Fflint ar 29 medi am oddeutu tair
wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Stryd Helygain a Ffordd Coed Onn ar gau yn
y cyffyrdd â’r A5119 Ffordd Llaneurgain. Bydd system unffordd dros dro ar waith
ar hyd Lôn y Capel rhwng 29 Medi a 2 Hydref.
Caiff y ffordd ei chulhau tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo a chaiff cerbydau
eu dargyfeirio ar hyd yr A55/A494/A548.
Yn ogystal â’r cyfyngiadau uchod, ar 10 - 11 Hydref, bydd yr A5119, Ffordd
Llaneurgain, ar gau i’r holl draffig drwodd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd: “Dyma ran olaf y buddsoddiad sylweddol yn ffyrdd y Sir ac
mae’n tanlinellu pwysigrwydd cynnal y rhwydwaith priffyrdd i Gyngor Sir y
Fflint.”
Ariannwyd y prosiect, sy’n werth £1.8m, gan gyfraniadau gan Fenter Benthyca
Darbodus y Llywodraeth ar gyfer Priffyrdd a’r arian cyfalaf a ddyrannwyd gan y
Cyngor ei hun ar gyfer rhoi wyneb ffyrdd.