Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Asesiad ar y cyd o Farchnad Dai Leol Wrecsam a Sir y Fflint

Published: 29/09/2014

Gofynnir i bobl yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint gymryd rhan mewn arolwg a fydd yn helpu’r ddau Gyngor i ddeall faint o dai a pha fathau o dai a fydd yn ofynnol dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r arolwg a elwir yn Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, wedi’i gomisiynu i sicrhau fod modd i’r ddau awdurdod baratoi polisïau tai a chynllunio sy’n adlewyrchu anghenion cymunedau lleol. Bydd yr Asesiad yn canfod faint o dai y bydd eu hangen, beth yw dyheadau’r aelwydydd ynghyd â’r angen am dai arbenigol â chymorth ar gyfer grwpiau penodol, megis pobl hyn. Mae cwmni tai ac ymchwil arbenigol o’r enw Arc4 wedi’i benodi i gynnal yr Asesiad ac adrodd ar y canfyddiadau. Bydd eu gwaith ymchwil yn seiliedig ar arolwg o drigolion lleol, trafodaethau gydag adeiladwyr tai, asiantau tai, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac unrhyw un arall sydd â diddordeb, a dadansoddiad o wybodaeth ystadegol megis Cyfrifiad 2011. Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o Gabinet Cyngor Sir y Fflint dros Dai: “Mae’n bwysig fod tai newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn diwallu anghenion tai lleol. Bydd yr astudiaeth hon yn helpu i sicrhau tai ar gyfer pobl leol a chynorthwyo twf economaidd yn ein cymunedau lleol.” Anfonir arolwg drwy’r post at dros 27,500 o aelwydydd a ddewiswyd ar hap ledled Wrecsam a Sir y Fflint ym mis Medi 2014. Mae hwn yn gyfle pwysig i drigolion a fydd yn derbyn yr holiadur i ddweud eu dweud a’i ddychwelyd yn yr amlen radbost a ddarperir. Mae mwy o wybodaeth ar gael wefan www.wrexhamflintshirehousingsurvey2014.info neu www.siryfflint.gov.uk