Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Glanhau’r Ddyfrdwy

Published: 03/10/2014

Casglwyd cannoedd o fagiau sbwriel gan wirfoddolwyr a fu hefyd yn plannu coed a bylbiau ar hyd a lled dalgylch yr Afon Ddyfrdwy yn ystod Diwrnod Glanhaur Ddyfrdwy eleni. Cymerodd tua 200 o wirfoddolwyr, gan gynnwys preswylwyr, a chynrychiolwyr o sefydliadau a busnesau, ran yn y digwyddiad dau ddiwrnod, a gynhaliwyd ar 19 a 20 Medi. Dywedodd Mike Taylor, Uwch Geidwad Arfordirol, Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint: Casglodd ceidwaid gwirfoddol Sustrans 37 o fagiau rhwng Queensferry a Saltney. Casglodd ceidwaid Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint dros 40 o fagiau a chasglodd staff Cyfoeth Naturiol Cymru sbwriel ar y traeth yn Nhalacre ochr yn ochr â staff a gwirfoddolwyr yr RSPB a’r Haven. Cafodd plant ysgol o Ysgol Uwchradd Cei Connah eu canmol gan y ceidwaid arfordirol ynghyd â staff a myfyrwyr o Goleg Cambria, a oedd yn gweithio yng Nghei Connah a’r dalgylch. Lansiwyd y Diwrnod Glanhau’r Ddyfrdwy yng Nghlwb Pêl-droed Caer gan fod y digwyddiad yn cynnwys asiantaethau partner ar draws Caer, Gogledd Cymru a Chilgwri, gan gynnwys Gorllewin Sir Gaer a Chaer, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Gwynedd ac fe’i cefnogir gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Mae Diwrnod Glanhau’r Ddyfrdwy eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a hoffwn ddiolch in holl bartneriaid am eu gwaith caled yn gwneud iddo ddigwydd. Mae’r Afon Ddyfrdwy yn rhedeg drwy lawer o wahanol ardaloedd yng Ngogledd Cymru ac maen wych gweld partneriaeth drawsffiniol mor llwyddiannus. Ychwanegodd Bev Dyer, Swyddog yr Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru: Mae’r Afon Ddyfrdwy a Moryd y Ddyfrdwy yn ardal boblogaidd ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr, ac yn ganolbwynt pwysig ar gyfer pysgota a chwaraeon dwr eraill, yn ogystal â chartref i fywyd gwyllt prin. Bydd gwaith pwysig yr holl wirfoddolwyr ar sefydliadau syn rhan o Ddiwrnod Glanhau’r Ddyfrdwy yn mynd yn bell o ran helpu i wneud yn siwr y gall yr ardal barhau i gael ei mwynhau gan bobl yn ogystal â bod o fudd i fywyd gwyllt ar economi leol am flynyddoedd i ddod. Ychwanegodd Jo Holden o Asiantaeth yr Amgylchedd: Roedd Diwrnod Glanhau’r Ddyfrdwy yn ddigwyddiad gwych. Tynnodd sylw at yr holl waith gwych mae Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gorllewin Swydd Caer a Chaer, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Caer a Cadwch Gymrun Daclus yn ei wneud i wellar amgylchedd lleol. Maen dangos faint y gallwn ei gyflawni drwy weithio gydan gilydd ac yr wyf yn gobeithio y bydd yn annog pobl i barhau i wirfoddoli a chymryd diddordeb mewn natur. Mae gwaith i wellar amgylchedd yn yr ardal hon yn parhau ac rydym yn edrych ymlaen i fod yn gysylltiedig â Phartneriaeth Dalgylch Llanwol Dyfrdwy, sydd â “Swyddog Moroedd Byw” yn dechraur wythnos nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd gennym berson penodol i ddechrau prosiectau ar sbwriel y môr a materion tir halogedig o amgylch Moryd y Ddyfrdwy ac i annog gwaith partneriaeth pellach gyda phobl leol a grwpiau gwirfoddol. Nodyn ir Golygydd Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dwyn ynghyd waith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Maen gyfrifol am sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal mewn modd cynaliadwy, eu gwella au defnyddio, yn awr ac yn y dyfodol.