Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Agoriad swyddogol llwybr beicio Talacre

Published: 03/10/2014

Caiff y llwybr beicio newydd o Dalacre i Ffynnongroyw ei agor yn swyddogol gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans AC ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, ddydd Iau 2 Hydref. Bydd aelodau o Ganolfan Ddydd Twr y Cloc yn hyrwyddo pwysigrwydd ymarfer corff ac iechyd drwy feicio ar hyd y llwybr beicio aml-ddefnydd newydd sy’n ffurfio rhan o gyswllt beicio parhaus o ogledd Mostyn trwodd i Ffynnongroyw ac ymlaen i Dalacre ac yna parhau ar hyd Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 5 ymlaen i Brestatyn. Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr beicio yn dilyn llinell Llwybr Arfordir Cymru rhwng yr A548 yn Tan Lan i’w chyffordd â Ffordd yr Orsaf yn Nhalacre, ac mae rhan ohono yn mynd o amgylch y Parlwr Du. Mae’n rhan o brosiect ‘Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint’ a ddechreuodd yn 2011. Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans: “Mae’r diolch yn rhannol i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru am y llwybr beicio newydd hwn. Mae bob amser yn bleser gweld cyllid ein Cynllun Datblygu Gwledig ar waith, ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau gwledig fel Talacre. Bydd y llwybr beicio o Dalacre i Ffynnongroyw o fudd i bobl leol ac yn eu hannog i wneud mwy o ymarfer corf yn ogystal â denu mwy o gerddwyr, beicwyr ac ymwelwyr i’n harfordir.” Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint “Rwy’n hynod falch o agor y llwybr beicio ochr yn ochr â’r Dirprwy Weinidog. Mae’r prosiect hwn wedi’i ddarparu yn rhannol fel rhan o raglen Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint sy’n ceisio gwella, datblygu a hyrwyddo cyfres o lwybrau cerdded, llwybrau beicio a llwybrau ceffylau i gysylltu cymunedau yng nghefn gwlad Sir y Fflint. Gall preswylwyr ac ymwelwyr bellach fwynhau beicio yn ogystal â cherdded ar hyd arfordir y sir ac yng nghefn gwlad.” Mae’r prosiect wedi derbyn tua £715,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae cyllid arall wedi’i ddarparu drwy’r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol, Y Gronfa Drafnidiaeth Leol a Chyngor Sir y Fflint sy’n gyfanswm o ryw £500,000.