Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn dechrau
Published: 06/10/2014
Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2014 ar fin dechrau!
Cynhelir y digwyddiad eleni rhwng 7 a 10 Hydref. Y prif noddwyr eleni yw:
AGS Security Systems (yn noddi Gwobrau Busnes Sir y Fflint)
Westbridge Furniture Designs (Arddangosfa Fusnes)
Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint bellach yn un o’r digwyddiadau pwysicaf oi
fath yn y rhanbarth, gan ddenu tua 2,000 o fusnesau bob blwyddyn. Maen
cefnogi cymuned fusnes y sir, yn ogystal â busnesau o’r rhanbarth ehangach, i
hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal
fel lle i fuddsoddi ynddo.
Maer rhaglen wedi cael ei datblygu i ddiwallu anghenion busnesau lleol a bydd
y pwyslais ar y diwydiant gweithgynhyrchu ac ar helpu busnesau i dyfu a llwyddo
yn y cyfnod economaidd heriol sydd ohoni.
Bydd yr uchafbwyntiau eleni yn cynnwys:
Yr Economi Ranbarthol pan fydd y siaradwyr yn amlygu pynciau gan gynnwys
llwyddiant busnes, datblygu economaidd strategol, cyflwr y genedl a Chynghrair
Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy.
Coleg Cambria, Glannau Dyfrdwy ywr lleoliad ar gyfer yr Arddangosfa Fusnes ar
8 Hydref syn cynnwys stondinau i arddangos busnesau lleol yn ogystal â
seminarau ar dwf swyddi yng Nghymru, y cyfryngau cymdeithasol a chyflwyniad i
Busnes Cymru.
Ar 9 Hydref, bydd Airbus, sy’n dathlu 75 mlwyddiant ym Mrychdyn, yn cynnal
Busnes Gogledd Cymru, lle bydd siaradwyr yn trafod tueddiadau gweithgynhyrchu
yn y Deyrnas Unedig, y byd academaidd, gweithgynhyrchu uwch a phrentisiaethau.
Gweithio gydan Gilydd ywr thema ar 10 Hydref pan fydd digwyddiad
rhwydweithio, Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes a siaradwr or cwmni tai
Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru yn sôn am gyfleoedd newydd ar gyfer datblygu
tai yn Sir y Fflint.
I gloir Wythnos Fusnes, cynhelir Cinio Gala Gwobrau Busnes Sir y Fflint y ceir
mynediad iddo trwy wahoddiad yn unig yn Neuadd Sychdyn ar 17 Hydref gyda
gwobrau ar gyfer busnesau lleol mewn 10 categori, gan gynnwys Busnes y Flwyddyn
a Pherson Busnes y Flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd,
Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn helpu ein busnesau lleol ac yn rhoi ein
hardal ar y map. Maen bartneriaeth unigryw a llwyddiannus iawn rhwng y
sectorau cyhoeddus a phreifat. Ar ran y Cyngor, rydw i eisiau diolch yn
ddiffuant in holl noddwyr ac i’n partneriaid syn gweithio mor galed gyda thîm
Datblygu Busnes y Cyngor i wneud y digwyddiad hwn yn bosib.
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr
Wythnos Fusnes, ewch i www.flintshirebusinessweek.co.uk neu cysylltwch â thîm
yr Wythnos Fusnes ar 01352 703219.