Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Darlith Flynyddol Pennant

Published: 06/10/2014

Llyfrgell a Chanolfan Ddysgu Treffynnon fydd lleoliad deunawfed Darlith Flynyddol Pennant nos Iau 16 Hydref am 7.30pm. Mae Jim Perris, gohebydd, mynyddwr a hanesydd naturiol adnabyddus, wedi cael ei wahodd gan Gymdeithas Thomas Pennant, i gyflwyno’r ddarlith eleni dan y teitl ‘Thomas Pennant: bywyd nodedig’. Mae Jim yn awdur llyfrau teithio ac mae wedi byw yng Nghymru ers 1964. Mae’n cyfrannu at bapurau newydd a chylchgronnau mawr fel y Guardian, Daily Telegraph a TRO ac ymddangosodd ei lyfr ‘Climbing Essays’ ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2007. Pwrpas Cymdeithas Pennant yw dathlu cyflawniadau a hyrwyddo astudiaethau pellach o fywyd Thomas Pennant, awdur llyfrau teithio a natur toreithiog a anwyd yn 1726 ac a oedd yn byw yn Chwitffordd, Sir y Fflint. Mae tocynnau ar gael o lyfrgell Treffynnon am £3 yr un. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig iawn felly fe’ch cynghorir yn gryf i archebu lle o flaen llaw i osgoi cael eich siomi ar y noson. Noddir y digwyddiad gan Gyngor Sir y Fflint a Chymdeithas Thomas Pennant. Am fwy o wybodaeth ffoniwch Lyfrgell Treffynon ar 01352 713157.