Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfarfod cyhoeddus cysylltiadau rheilffyrdd

Published: 02/04/2014

Ymunwch â’r drafodaeth ynglyn â gwella trafnidiaeth gynaliadwy a chysylltiadau rheilffyrdd yn Sir y Fflint gydag entrepreneuriaid lleol a siaradwyr gwadd ddydd Gwener yma. Mae Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn croesawu preswylwyr a pherchnogion busnesau i gyfarfod i drafod seilwaith rheilffyrdd y rhanbarth a’r cynlluniau rheilffyrdd cyflym iawn ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig. Bydd yr entrepreneur a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni atgyweirio a chynnal telathrebu Comtek ar Lannau Dyfrdwy, Askar Sheibani yn cadeirio’r cyfarfod ochr yn ochr â llywydd y fforwm busnes, yr Arglwydd Barry Jones ddydd Gwener 4 Ebrill yng Ngwesty Days, Garden City yn Sir y Fflint. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Cymdeithas Defnyddwyr y Rheilffyrdd ar gyfer lein Wrecsam i Bidston, Rheolwr Cymunedol a Rhanddeiliaid HS2 Ltd yn y Gogledd-Orllewin, Raj Chandarana, a Joe Rukin o Stop HS2, yr ymgyrch i atal y cyswllt rheilffyrdd cyflym iawn. Dyma’r unig ddigwyddiad cyhoeddus hyd yma yng Nghymru gyda dau gyflwynydd proffil uchel yn cynrychioli dwy farn gyferbyniol yn ymwneud â thrafodaeth genedlaethol. Bydd sesiwn holi ac ateb i’r mynychwyr yn dilyn. Ym mis Medi y llynedd, lansiodd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ymgyrch yn mynnu gwelliannau i lwybr rheilffordd Wrecsam i Bidston, sy’n anfynych, annibynadwy, araf ac yn cael ei gynnal yn wael, heb ddim cynlluniau i’w drydaneiddio. Mae’r lein yn cysylltu Wrecsam - cartref Prifysgol Glyndwr - â chanolfannau busnes strategol, megis Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, Ardal Fenter Wirral Waters a Rhanbarth Dinas Lerpwl, felly gallai ddarparu budd economaidd sylweddol i’r ardal pe câi ei huwchraddio. Mae buddsoddi yn y lein yma a leiniau trên tebyg eraill yn cynnig ffordd amgen, mwy lleol o uwchraddio’r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae mewn gwrthgyferbyniad llwyr â chynlluniau HS2 Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n anelu at adeiladu cysylltiadau rheilffyrdd tra chyflym rhwng Llundain, Birmingham, Leeds a Manceinion, sydd eisoes â chysylltiadau da ac sy’n fwy ffyniannus. Meddai Askar Sheibani: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn dal i yrru ein hymgyrch ymlaen i drydaneiddio llwybr rheilffordd Wrecsam i Bidston, un o’r cysylltiadau rheilffordd pwysicaf rhwng Gogledd-Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, yng nghyfarfod nesaf Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Er gwaethaf newyddion y dylid cyflymu prosiect rheilffyrdd HS2, rydym ni’n parhau i fod â’n ffocws ar brofi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fanteision buddsoddi mewn prosiectau lleol sy’n mynd i’r afael â chalon problem rheilffyrdd y Deyrnas Unedig. Dim ond trwy gysylltu’r ardaloedd ble mae pobl yn byw yn y Deyrnas Unedig yn well, y byddwn yn adeiladu economi gryfach ar draws lled y wlad, yn hytrach na dim ond rhoi hwb i ychydig o ddinasoedd sydd eisoes yn gyfoethog.” Os hoffech chi fwy o wybodaeth am HS2, neu os hoffech chi ddod i gyfarfod agored Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ar ddydd Gwener 4 Ebrill, 1:30pm tan 3:30pm, cysylltwch â Brian Chaloner ar Brian.Chaloner@flintshire.gov.uk a chofrestru eich enw os gwelwch yn dda.