Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Grant diogelwch y ffyrdd 2014-15
Published: 22/04/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint newydd gael ychydig dros £300,000 gan Lywodraeth Cymru
ar gyfer cynlluniau diogelwch y ffyrdd ac i ddal ati gyda hyfforddiant codi
ymwybyddiaeth o ddiogelwch y ffyrdd.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella ffyrdd y B5151 yn Nhrelawnyd, y
B5441 o Queensferry i Garden City, Stryd Fawr Bagillt a’r B5125 o Ewlo i
Benarlâg a fydd yn costio cyfanswm o £200,000.
Bydd y £103,000 sy’n weddill yn cael ei wario ar godi ymwybyddiaeth, sef
hyfforddiant i feicwyr modur, Pass Plus a sesiynau ymwybyddiaeth cyn gyrru i
yrwyr ifanc, gweithdai datblygu gyrwyr hyn a hyfforddiant sgiliau cerddwyr i
blant.
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr
Amgylchedd:
“Rwy’n falch iawn o gael dweud fod ein bod wedi llwyddo i gael arian ar gyfer
ein pedwar cynllun diogelwch y ffyrdd a chael arian hefyd ar gyfer mentrau
ymwybyddiaeth diogelwch a hyfforddiant i grwpiau bregus o ddefnyddwyr ffyrdd
sydd mewn mwy o berygl na’r cyffredin.
“Fel yn y blynyddoedd o’r blaen, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n
hawdurdodau lleol cyfagos i ddarparu mentrau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth
diogelwch. Mae’r mesurau hyn yn adeiladu ar ein llwyddiant ynghynt gyda
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud cyfraniad
positif i ddiogelwch y ffyrdd.”