Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yn cyrraedd y rhestr fer

Published: 08/10/2014

Mae cwmni tai fforddiadwy Cyngor Sir y Fflint, Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru (NEW Homes), wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Tai Cymru. Sir y Fflint yw’r awdurdod cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun, ac mae’n cystadlu yn erbyn tri phrosiect arall sydd wedi’u henwebu ar gyfer Syniad Newydd y Flwyddyn yn y gwobrau a drefnir gan y Sefydliad Tai Siartredig. Bwriad Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yw ymateb i’r heriau y mae preswylwyr yn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar dai fforddiadwy ac mae wedi’i sefydlu gan y Cyngor i gynyddu’r opsiynau tai sydd ar gael i breswylwyr lleol. Mae’n cynnig nifer o wasanaethau rheoli tai wedi’u teilwra i gynyddu niferoedd a gwella safonau tai fforddiadwy ledled y sir. Yn ogystal â rhentu ei dai ei hun, mae Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yn rhoi amryw o gynigion i landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaeth ‘parod i denantiaid’. Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaeth rheoli prydlesu ac eiddo llawn a hefyd yn rhoi cynnig unigryw i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu tai i’r cwmni a byw mewn cartrefi addas gan y cyngor. Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai: “Mae Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yn ateb arloesol i’r problemau a wynebir gan nifer o breswylwyr sy’n methu â fforddio rhenti’r farchnad ond nad ydynt yn gymwys i gael tai cyngor. Rydym yn hynod falch fod y syniad hwn wedi cael ei gydnabod a’i fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon.” Cyhoeddir enillwyr y wobr mewn seremoni a gynhelir nos Wener 21 Tachwedd yng ngwesty’r Vale Resort, Bro Morganwg.