Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Swyddi Sir y Fflint; Digwyddiad Sgiliau a Hyfforddiant

Published: 13/10/2014

Mynychodd cann oedd o bobl ddigwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant i gefnogi cyflogaeth yn Sir y Fflint yn Neuadd Ddinesig Cei Connah. Roedd y digwyddiad rhyngweithiol wedi’i anelu at oedolion a phobl ifanc sy’n chwilio am waith a chawsant gyfle i gyfarfod â chyflogwyr, sefydliadau addysgol ac asiantaethau cymorth. Roedd dros 700 o swyddi gwag ar gael, mewn amryw o sectorau a bu’r ymgeiswyr yn manteisio ar gymorth ‘ar y diwrnod’ i lenwi ffurflenni cais. Roedd y cyflogwyr yn cynnwys; ASDA Queensferry, Westbridge Furniture a Ralawise ac fe drefnwyd nifer o gyfweliadau ar y dydd. I’r rheiny a oedd yn chwilio am help i fod yn fwy cyflogadwy neu i ennill sgiliau entrepreneuriaeth, roedd gweithdai ar gael hefyd yn rhoi cyngor ymarferol. Trefnwyd y digwyddiad gan Gymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint, Y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru. Roedd Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint yno hefyd yn arddangos eu gwaith gan gynnwys y rhaglen LIFT newydd, sydd wedi’i datblygu i gynorthwyo pobl sydd wedi bod yn ddiwaith ers amser hir i ddychwelyd i’r gwaith. Yn ogystal â gwneud ceisiadau am swyddi gwag, roedd modd i geiswyr gwaith gyfarfod â chyflogwyr, darparwyr addysg a nifer o sefydliadau cymorth eraill a’u holi, Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr a daeth dros 500 o bobl drwy’r drysau. Bu’n siawns i edrych ar fyd gwaith mewn ffordd wahanol a pha swyddi a sgiliau sy’n angenrheidiol yn arbennig mewn meysydd perthnasol.” Ychwanegodd y cynghorydd lleol Paul Shotton: “Roedd y lleoliad yn llawn dop a bu’n ddiwrnod llwyddianus iawn. Siaradais â nifer o ymwelwyr a oedd wrth eu boddau â’r cyngor a oedd ar gael ac yn hapus iawn â’r digwyddiad.”